Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Marwolaeth ymgeisydd
Mae effaith marwolaeth ymgeisydd cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan yn dibynnu ar b'un a oedd yr ymgeisydd dan sylw yn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ai peidio.
Yr adeg y caiff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) brawf o farwolaeth yr ymgeisydd yw'r ffactor perthnasol, nid union amser y farwolaeth.
Marwolaeth ymgeisydd annibynnol1
Os bydd ymgeisydd annibynnol yn marw, bydd yr etholiad yn parhau yn ôl y drefn. Os bydd yr ymgeisydd a fu farw yn cael y nifer mwyaf o bleidleisiau, ni chaiff ei ethol a chaiff yr etholiad ei ailgynnal. Ni fydd angen unrhyw enwebiadau newydd: bydd yr holl ymgeiswyr gwreiddiol wedi'u henwebu o hyd ar gyfer yr etholiad newydd a chanlyniad yr etholiad hwnnw fydd yn pennu p'un a gaiff yr ernesau eu cadw neu eu had-dalu. Ni chaniateir unrhyw enwebiadau newydd ar gyfer yr etholiad a gaiff ei hailgynnal, ond caiff ymgeiswyr dynnu'n ôl.
Os nad yr ymgeisydd annibynnol a fu farw a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y bleidlais wreiddiol, yr ymgeisydd a gafodd y nifer fwyaf a gaiff ei ethol, ac nid effeithir ar yr etholiad. Os daeth yr ymgeisydd a fu farw yn gydradd gyntaf gyda'r un nifer o bleidleisiau ag unrhyw ymgeisydd arall, caiff yr ymgeisydd arall ei ethol.
Os mai dim ond dau unigolyn sydd wedi'u henwebu a bod ymgeisydd annibynnol yn marw, caiff yr etholiad ei drin fel etholiad diwrthwynebiad a chaiff yr ymgeisydd arall ei ethol.
O dan yr holl amgylchiadau, ad-delir ernes yr ymgeisydd a fu farw.
Marwolaeth ymgeisydd plaid2
Os caiff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) brawf a'i fod yn fodlon cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan fod ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol (neu fel ymgeisydd ar y cyd sy'n sefyll ar ran dwy blaid neu fwy) wedi marw, caiff yr etholiad ei atal ar unwaith. Os bydd y bleidlais wrthi'n mynd rhagddi neu'r pleidleisiau wrthi'n cael eu cyfrif, bydd y broses honno'n cael ei hatal. Cynhelir etholiad newydd.
Ni fydd angen unrhyw enwebiadau newydd: bydd yr holl ymgeiswyr gwreiddiol wedi'u henwebu o hyd ar gyfer yr etholiad newydd a chanlyniad yr etholiad hwnnw fydd yn pennu p'un a gaiff yr ernesau eu cadw neu eu had-dalu. Ni chaniateir unrhyw enwebiadau newydd ar gyfer yr etholiad newydd, ac eithrio'r ffaith y gellir enwebu ymgeisydd newydd i sefyll ar ran plaid (neu bleidiau) yr ymgeisydd a fu farw. Caiff unrhyw ymgeiswyr presennol dynnu'n ôl cyn y terfyn amser ar gyfer tynnu'n ôl o'r etholiad newydd. Rhaid cyflwyno papurau enwebu'r ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid (neu bleidiau) yr ymgeisydd a fu farw erbyn diwedd y cyfnod enwebu, yn unol â'r amserlen newydd.
Marwolaeth Llefarydd Tŷ'r Cyffredin3
Os caiff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) brawf a'i fod yn fodlon cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan fod ymgeisydd a oedd yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin sy'n ceisio ei ail-ethol wedi marw, caiff yr etholiad ei atal ar unwaith. Os bydd y bleidlais wrthi'n mynd rhagddi neu'r pleidleisiau wrthi'n cael eu cyfrif, bydd y broses honno'n cael ei hatal. Cynhelir etholiad newydd.
Os bydd y Llefarydd yn marw, caniateir enwebiadau newydd ar gyfer yr etholiad newydd, a rhaid i'r rhain gael eu cyflwyno yn y modd arferol ac erbyn y terfyn amser ar gyfer enwebiadau yn seiliedig ar yr amserlen newydd.
Etholiad newydd
Bydd yr amserlen ar gyfer unrhyw etholiad newydd yn cael ei baratoi fel petai'r writ wedi'i dderbyn saith diwrnod gwaith ar ôl i'r prawf o farwolaeth gael ei dderbyn gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gosod diwrnod pleidleisio newydd ac yn rhoi manylion i chi o'r amserlen etholiadol newydd.
- 1. Rheolau 60-62 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 63 Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 64 Atod 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3