Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

A fydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad ai peidio?

Bydd yr etholiad yn un diwrthwynebiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys: 

  • dim ond un enwebiad dilys a geir 
  • caiff yr holl enwebiadau dilys eu tynnu'n ôl yn briodol erbyn y terfyn amser heblaw am un

Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn datgan yr un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys a fydd yn cael ei ethol cyn gynted â phosibl a bydd yn gwneud hysbysiad cyhoeddus yn cynnwys enwau'r rhai a gaiff eu hethol.

Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, rhaid i'r ymgeiswyr a etholwyd wneud datganiad o ran eu gwariant o hyd. Cewch ragor o wybodaeth yn ein canllawiau am gyflwyno ffurflenni gwariant a dechrau yn y swydd.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ionawr 2024