Rhaid i bob Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gymryd camau rhesymol i gwblhau dilysu a dechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol o fewn pedair awr ar ôl i'r bleidlais gau.
Lle nad yw hyn yn digwydd yn ymarferol - er enghraifft, oherwydd lefelau uwch na'r disgwyl yn y nifer a bleidleisiodd, ciwiau mewn gorsafoedd pleidleisio ar ddiwedd y bleidlais, cyfuniad o etholiad Senedd y DU gydag etholiadau eraill, neu ddaearyddiaeth benodol etholaeth - yna rhaid i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) adrodd am hyn i'r Comisiwn.
Er ei bod yn bwysig sicrhau bod y broses gyfrif yn cael ei chynnal yn brydlon, mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y broses honno yn rhoi canlyniad cywir y gall pawb deimlo'n hyderus yn ei gylch.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn eich hysbysu o'r union amser a lleoliad a bydd yn gofyn i chi roi rhestr o'r rhai a fydd yn bresennol gyda chi. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bwy all fod yn bresennol yn y cyfrif a phenodi asiantiaid cyfrif.
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi cyfarwyddiadau neu wahoddiad sy'n cynnwys unrhyw ofynion ar gyfer bod yn bresennol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol sydd ar waith megis ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos prawf adnabod a gofyn am gael gwirio eu bagiau cyn cael mynediad, yn ogystal â gwybodaeth am y safonau ymddygiad a ddisgwylir ar gyfer mynychwyr. Dylech sicrhau bod y cyfarwyddiadau hyn yn cael eu dilyn gennych chi ac unrhyw un arall sy'n dod gyda chi.