Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Sut y caiff y pleidleisiau eu cyfrif

Cam 1 – Cofnodi

Bydd staff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn anfon y blychau pleidleisio o'r orsaf bleidleisio i leoliad y cyfrif.

Bydd staff y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cofnodi'r blychau pleidleisio wrth iddynt gyrraedd lleoliad y cyfrif. 

Cam 2 – Dilysu

Caiff blychau pleidleisio eu gwagio ar fyrddau a dangosir y blychau gwag i asiantiaid.

Bydd y staff yn cyfrif y papurau pleidleisio o bob gorsaf bleidleisio.
 
Bydd staff yn cadarnhau bod nifer y papurau pleidleisio yn cyfateb i nifer y papurau a ddosbarthwyd, fel y cofnodir ar gyfrifon papurau pleidleisio'r Swyddogion Llywyddu.

Dangosir y papurau pleidleisio a ddilyswyd i'r asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif yn wynebu i fyny.

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn pennu'r rhesymau dros unrhyw anghysondebau ac yn llunio cyfanswm terfynol wedi ei ddilysu.

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn llunio datganiad o'r broses ddilysu. Gall asiantiaid weld neu gopïo'r datganiad hwn os dymunant.

Yng Nghymru a Lloegr, os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu dechrau cyfrif y pleidleisiau cyn cwblhau'r gwaith o ddilysu'r holl bapurau pleidleisio. Fodd bynnag, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ond cyhoeddi canlyniadau etholiad cyffredinol Senedd y DU ar gyfer ei etholaeth unwaith y bydd y gwaith o ddilysu'r holl bapurau pleidleisio wedi cael ei gwblhau.

Yn yr Alban, os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno ag etholiad arall, rhaid cwblhau'r gwaith o ddilysu'r holl bapurau pleidleisio cyn y gellir dechrau cyfrif pleidleisiau etholiad cyffredinol Senedd y DU.

Gall un blwch pleidleisio fod ar gyfer yr holl etholiadau neu gellir cael blwch ar wahân i bob un. Sut bynnag, caiff papurau pleidleisio eu rhannu yn etholiadau gwahanol a ymleddir.

Bydd unrhyw bapur pleidleisio a ganfyddir yn y blwch pleidleisio 'anghywir' yn ddilys o hyd a chaiff ei symud i'r blwch cywir yn ystod y broses ddilysu.

Os yw etholiad Senedd y DU yn cael ei gyfuno ag etholiadau eraill ac nad yw’r cyfrif ar gyfer yr etholiadau hynny’n digwydd yn syth ar ôl dilysu, bydd y blychau a ddilyswyd yn cael eu storio yn ddiogel. Gall ymgeiswyr ac asiantiaid atodi eu seliau i'r blychau os dymunant.

Cam 3 – Cyfrif y pleidleisiau

Bydd y staff yn rhannu'r papurau pleidleisio yn ôl ymgeisydd.
 
Bydd staff yn cyfrif nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd.

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhannu'r canlyniad dros dro gyda chi a'r asiantiaid. Gallwch chi neu eich asiant etholiad ofyn i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ailgyfrif y pleidleisiau.
 
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wrthod ailgyfrif os bydd yn credu bod y cais yn afresymol. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ionawr 2024