Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif?

Mae gennych chi a’ch asiant etholiad hawl i arsylwi ar y cyfrif.1

Hefyd, gallwch wahodd un person arall i fod yn bresennol fel eich gwestai, ac ni fydd ganddo unrhyw bwerau na swyddogaethau.
 
Gallwch hefyd benodi asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif ar eich rhan.2  

Dylech sicrhau eich bod chi a'ch holl fynychwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2024