yw’n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen sy'n gallu datgelu pwy yw'r pleidleisiwr
nad yw’n dangos yn sicr beth yw bwriad y pleidleisiwr
Llunnir datganiad i ddangos nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd am y rhesymau hyn.2
Bydd y geiriau ‘gwrthodwyd’ a/neu ‘rejected’ yn cael eu nodi ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodwyd.3
Rhaid i’r geiriau ‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad’ a/neu ‘rejection objected to’ gael eu hychwanegu os yw asiant cyfrif yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
Os yw bwriad y pleidleisiwr yn glir ar bapur pleidleisio ac nad oes modd adnabod y pleidleisiwr drwy unrhyw farc neu ysgrifen, ni fydd yn cael ei wrthod os yw pleidlais wedi ei marcio:
yn rhywle arall heblaw am y lle priodol
drwy ddull gwahanol i groes (e.e. tic)
gyda mwy nag un marc
Papurau pleidleisio amheus
Rydym wedi llunio canllawiau ar sut i ddyfarnu pleidleisiau ar bapurau pleidleisio a all ymddangos yn amheus. Mae’r canllawiau hyn i’w gweld yn ein llyfryn Delio gyda phapurau pleidleisio amheus. Rydym hefyd wedi cynhyrchu matiau bwrdd papur pleidleisio amheus y gall staff sy’n dyfarnu papurau pleidleisio gyfeirio atynt yn y cyfrif.
Mae’r enghreifftiau a roddir yn y rhain yn seiliedig ar reolau’r etholiad.
Noder, er ein bod yn darparu canllawiau, y Swyddog Canlyniadau neu ei ddirprwyon sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud penderfyniad ar bapurau pleidleisio unigol. Mae penderfyniad i wrthod papur pleidleisio penodol yn ystod y cyfrif neu’r ailgyfrif yn derfynol a dim ond mewn deiseb etholiadol ar ôl i’r canlyniad gael ei ddatgan y gellir ei adolygu.4
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.