| Argraffu'r canllawiau llawn

Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref ar ôl i'r enwebiadau gau

Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio ffurflenni enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad, mae gan rai pobl hawl i archwilio ffurflenni cyfeiriadau cartref.1 Y bobl hyn yw:

  • unrhyw berson a gafodd ei enwebu i fod yn ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd
  • asiant etholiad neu lofnodwr unrhyw berson arall sydd wedi’i enwebu fel ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd  
  • lle mae ymgeisydd unigol sydd wedi'i enwebu yn yr un etholaeth Senedd yn gweithredu fel ei asiant ei hun, unrhyw berson arall a enwebir ganddo

Lle mae ffurflenni cyfeiriad cartref wedi'u cyflwyno'n electronig, byddant yn hygyrch i'r rhai sydd â chaniatâd i'w harchwilio gan y Swyddog Canlyniadau.

Ni chaniateir i unrhyw berson gymryd dyfyniad o ffurflen cyfeiriad cartref na gwneud copi ohoni. 2

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026