Gall y canlynol wneud cais i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau Senedd Cymru drwy gyflwyno cais i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ei awdurdod lleol:
person 16 oed neu hŷn sydd wedi cofrestru i bleidleisio
person 16 oed neu hŷn sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru i bleidleisio
person sydd wedi'i benodi i bleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall.
Rhaid i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol dderbyn y cais erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Nid oes gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol unrhyw ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau am ba bynnag reswm.