Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd

| Argraffu'r canllawiau llawn

Pecynnau pleidleisio drwy'r post

Anfonir pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio.

Bydd etholwyr sydd wedi cofrestru’n agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn cael eu pecynnau pleidleisio drwy'r post pan fydd eu henwau wedi cael eu hychwanegu at ddiweddariad olaf y gofrestr ar y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Bydd etholwyr a wnaeth gais am eu pleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn cael eu pecynnau pleidleisio drwy'r post unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud ar eu cais. 

Yna, bydd etholwyr yn marcio eu papur pleidleisio, yn cwblhau'r datganiad pleidleisio drwy’r post drwy nodi eu llofnod a’u dyddiad geni, ac yn eu dychwelyd i’r Swyddog Canlyniadau cyn diwedd y cyfnod pleidleisio (h.y. 10pm ar y diwrnod pleidleisio). 

Er mai'r Swyddogion Canlyniadau sy'n gyfrifol yn y pen draw am gyflenwi ac agor pleidleisiau drwy’r post ar draws eu hetholaethau, mae'n bosibl y byddant yn dymuno penodi dirprwyon o fewn eu etholaethau i weinyddu’r prosesau hyn ar lefel awdurdod lleol. Nid oes gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad nac asiantiaid pleidleisio drwy'r bost yr hawl i fod yn bresennol yn y broses cyflenwi pleidleisiau post.1

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Awst 2026