Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd

| Argraffu'r canllawiau llawn

Pryd caiff pleidleisiau post eu hagor a sut byddwch chi’n gwybod pryd bydd sesiwn agor yn cael ei chynnal?

Mae’n debygol y bydd nifer o sesiynau agor yn cael eu cynnal cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal ag ar y diwrnod pleidleisio ei hun.

Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau:
 

  • rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol a’r asiant etholiad ar gyfer pob plaid gofrestredig ag enwebiad ynghylch pryd a ble y bydd y sesiynau’n cael eu cynnal1
  • nodi faint o asiantiaid pleidlais bost fydd yn cael mynd i bob sesiwn. 

Bydd sesiwn agor derfynol ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau i agor unrhyw bleidleisiau post sydd wedi eu cyflwyno i orsafoedd pleidleisio. Gellir cynnal y sesiwn hon yn y lleoliad cyfrif neu mewn lleoliad arall. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi gwybod i’r rheini sydd wedi’u rhestru uchod am y lleoliad ar gyfer y sesiwn agor derfynol.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses a ddilynir yn y sesiynau agor pleidleisiau post, gweler ein canllawiau ar gamau’r broses o agor pleidleisiau post 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025