Gwneud cais am gopi o’r gofrestr etholiadol a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol
Gellir cael copïau o’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi cael ei benodi ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal y cofrestrau etholiadol. Gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar ein gwefan.
Rhaid i’r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig1
ac rydym wedi creu ffurflen gais am gofrestr a ffurflen gais am restrau pleidleiswyr absennol sydd ar gael at y diben hwn.
Er bod rhaid gwneud ceisiadau i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylai asiantiaid etholiad ar gyfer rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol hefyd gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau, a allai fod wedi rhoi trefniadau ar waith i gydlynu ceisiadau ar gyfer yr holl gofrestrau a rhestrau yn y rhanbarth.
Darperir y gofrestr a’r rhestrau ar ffurf electronig oni ofynnir yn benodol am gopi papur.
Y fersiwn o’r gofrestr etholiadol a’r rhestrau y byddwch yn eu derbyn fydd y rhai cyfredol ar adeg eich cais. Gallwch hefyd ofyn am ddiweddariadau i’r rhestrau a’r cofrestrau etholiadol sy’n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod cyn y bleidlais, gan gynnwys y rhestr o etholwyr sydd newydd gael eu cofrestru pan gaiff ei chyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Gallai unrhyw berson sy’n torri’r cyfyngiadau ar ddefnyddio’r gofrestr etholiadol wynebu dirwy ddigyfyngiad. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gyfyngiadau ar ddefnyddio’r gofrestr etholiadol.
Gwneud cais am y gofrestr etholiadol y tu allan i gyfnod yr etholiad
Mae gan bleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig hefyd yr hawl i ofyn am gopi o'r gofrestr etholiadol y tu allan i gyfnod yr etholiad.
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar ba wybodaeth y gellir gofyn amdani, pryd a sut y gellir gofyn amdani, a'r defnyddiau a ganiateir o'r wybodaeth honno yn ein taflen ffeithiau:
1. Rheoliad 102, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ac Atodlen 1, Paragraff 18(12), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025↩ Back to content at footnote 1