Ar ôl i chi gofrestru
Overview of after you have registered
Ar ôl i chi gofrestru'n llwyddiannus, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am eich rhwymedigaethau fel plaid wleidyddol gofrestredig.
O dan PPERA, rhaid i blaid wleidyddol gofrestredig wneud y canlynol, er enghraifft:
- sicrhau bod pob rhodd a benthyciad dros £500 yn dod o ffynonellau yn y DU yn bennaf
- rhoi gwybod am roddion a benthyciadau bob chwarter, a phob wythnos yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU
- cydymffurfio â therfynau gwario'r ymgyrch yn ystod etholiadau, a rhoi gwybod i ni am yr arian a gaiff ei wario ar yr ymgyrch
- cadw cyfrifon a chofnodion cywir
- anfon cyfrifon blynyddol atom
- os yw incwm neu wariant y blaid dros £250,000 y flwyddyn, rhaid i chi hefyd anfon adroddiad archwilydd ar eich cyfirfon blynyddol
- gweithredu'n gyson gyda’ch cyfansoddiad a'ch cynllun ariannol, a sicrhau eu bod yn gyfredol
- diweddaru manylion y blaid, a'u cadarnhau'n flynyddoly
Diben y rheolau hyn yw sicrhau uniondeb a thryloywder o ran cyllid pleidiau gwleidyddol. Os na fyddwch yn eu dilyn, gallech fod yn destun dirwyon neu gamau gorfodi eraill. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys eich cyfeirio am erlyniad troseddol yn ogystal â dadgofrestru eich plaid.
Mae gennych gyfrifoldebau sylweddol fel plaid wleidyddol, felly mae'n bwysig eich bod yn deall y rheolau hyn yn llawn cyn i chi gofrestru â ni. Dylech sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo â’r canllawiau sydd ar gael ar gyfer pleidiau gwleidyddol ar ein gwefan.
Rydym hefyd yn darparu canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar sut i sefyll etholiad, ynghyd â'u hawliau a'u cyfrifoldebau.
Cynnal a newid manylion eich plaid
O dan PPERA, rhaid i chi sicrhau bod eich manylion cofrestru yn cael eu diweddaru. Gall methiant i wneud hynny olygu eich bod yn torri PPERA a allai arwain at ddirwy.
Bob blwyddyn, mae’n rhaid i chi gadarnhau eich manylion cofrestru mewn cadarnhad cofrestru blynyddol. Os byddwch yn methu â darparu cadarnhad cyflawn a chydnaws erbyn y dyddiad cau, caiff y blaid ei dadgofrestru. Mae gan y trysorydd cofrestredig ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y caiff y cadarnhad ei ddarparu bob blwyddyn erbyn y dyddiad cau. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn gosod nodyn atgoffa i’ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r dyddiad cau hwn.
Gallwch newid eich manylion ac ychwanegu neu newid disgrifiadau ac arwyddluniau unrhyw bryd ar ôl i chi gofrestru. Codir ffi gwneud cais o £25 na chaiff ei had-dalu am wneud newidiadau i enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau plaid. Bob tro y byddwch yn gwneud cais i gofrestru dynodydd newydd, caiff ei asesu gennym ni yn erbyn y profion statudol yn PPERA. Gall y broses hon gymryd amser er mwyn sicrhau ein bod yn dod i gasgliad teg o fewn y gofynion deddfwriaethol.
Ein dyletswydd i gynnal y cofrestrau
O dan PPERA, mae gennym ddyletswydd i gynnal cofrestrau pleidiau gwleidyddol. Yn unol â’r ddyletswydd honno, gallwn gynnal adolygiadau o’r cofrestrau er mwyn sicrhau bod plaid a phob un o’i marciau adnabod yn parhau i fodloni’r profion statudol ar gyfer cofrestru.
Gallai hyn olygu os byddwn yn ystyried yn y dyfodol nad yw un neu fwy o farciau adnabod cofrestredig y blaid yn bodloni’r profion statudol mwyach, cânt eu dileu.
Os bydd amgylchiadau plaid yn newid neu os cawn ein hysbysu nad yw’r blaid yn gweithredu yn unol â’i chyfansoddiad neu gynllun ariannol, gallwn adolygu cofrestriad y blaid honno. Bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol.
Os na fydd plaid yn ymladd etholiadau, gallwn hefyd adolygu cofrestriad y blaid.
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â’r blaid i roi gwybod am unrhyw adolygiad o’r fath.