Prosesu newid i ddewis etholwr i gael ei gynnwys ar y gofrestr (agored) olygedig
Gall etholwr newid ei ddewis optio allan unrhyw adeg drwy wneud cais i chi.
Rhaid i'r cais gynnwys ei enw llawn, ei gyfeiriad a ph'un a yw am gael ei gynnwys neu ei hepgor ar y gofrestr olygedig.1
Gellir gwneud y cais ar lafar neu'n ysgrifenedig. Pan gaiff y wybodaeth ei darparu ar lafar, dylech wneud nodyn ysgrifenedig o hyn ar gyfer eich cofnodion.
Os gwneir cais yn bersonol neu dros y ffôn, gallwch gadarnhau'r newid ar lafar. Fodd bynnag, os gwneir y cais yn ysgrifenedig, gallwch ddewis ysgrifennu at yr etholwr yn cadarnhau bod y newid wedi'i wneud ond nid yw'n ofynnol i chi wneud hynny.
Os byddwch yn penderfynu cadarnhau newid i ddewis etholwr yn ysgrifenedig, dylech hefyd ddweud wrth yr etholwr pan gaiff fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr olygedig sy'n adlewyrchu'r newid ei chyhoeddi, a sut i gysylltu â chi os nad yw'r wybodaeth yn yr hysbysiad yn gywir.2
Gellir gwneud cais i newid dewisiadau optio i mewn neu allan o'r gofrestr olygedig ar unrhyw adeg, rhaid iddo ddod i law 14 diwrnod calendr cyn cyhoeddi er mwyn ei gynnwys yn y diweddariad nesaf.3 Beth yw cais Erthygl 21?
Os byddwch yn cael cais Erthygl 21, dylech ei drin fel cais i optio allan o'r gofrestr olygedig yn barhaol (neu tan eich bod yn cael eich hysbysu fel arall).
Mae Erthygl 21 o Reoliad Cyffredinol yr UE ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawl i unigolion wrthwynebu prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol ac mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i gydymffurfio â chais dilys.
Rhaid i'r etholwr wneud y cais ei hun. Ni ddylid ystyried bod cais yn ddilys os caiff ei gyflwyno gan drydydd parti, fel ffrind, aelod o'r teulu neu gwmni sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran yr etholwr, oni fyddwch yn fodlon bod yr etholwr wedi awdurdodi'r trydydd parti i wneud cais Erthygl 21 ar ei ran.
Os na fyddwch yn fodlon, dylech gysylltu â'r trydydd parti a gofyn iddo roi tystiolaeth ei fod wedi cael ei awdurdodi gan yr etholwr i wneud cais o dan Erthygl 21 ar ei ran.
Os na chaiff hon ei darparu, dylech holi'r etholwr dan sylw a dylech gael cadarnhad o awdurdodiad yr etholwr.
Dim ond pan fyddwch yn fodlon bod yr etholwr ei hun wedi awdurdodi'r trydydd parti i anfon yr hysbysiad Erthygl 21 y gallwch ystyried bod y cais yn ddilys.