Pa ddata y bydd angen i mi ei gasglu a’i rannu yn dilyn y canfasiad blynyddol?

Pa ddata y bydd angen i mi ei gasglu a’i rannu yn dilyn y canfasiad blynyddol?

Gallai Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ofyn am wybodaeth rheoli bob blwyddyn wedi’r canfasiad blynyddol; gall y wybodaeth ofynnol hefyd newid o flwyddyn i flwyddy; fodd bynnag, dylai eich EMS allu cynhyrchu adroddiadau i gefnogi’r ceisiadau hyn.

Casglu Data Canfasio’r Comisiwn Etholiadol

Bob blwyddyn, bydd y Comisiwn Etholiadol yn gofyn am ddata yn dilyn cyhoeddi’r gofrestr flynyddol. Bydd y data sydd i’w ddarparu wedi ei gynnwys mewn adroddiadau a fydd yn cael eu cynhyrchu yn llawn trwy eich system EMS. Bydd Tîm Ymchwil y Comisiwn yn gweithio gyda’ch darparwr EMS i nodi’r adroddiadau cyn casglu’r data, a dylai eich darparwr EMS roi gwybod i chi sut mae cynhyrchu’r adroddiad cywir yn y system.

Unwaith y byddwch wedi cynhyrchu’r adroddiad yn eich system EMS ac adolygu’r data, cyflwynwch ef i [email protected] cyn gynted â phosib ar ôl cyhoeddi’r gofrestr flynyddol ddiwygiedig. Caiff dyddiadau cau cyflwyno a gwybodaeth bellach eu cyfathrebu trwy fwletin Gweinyddu Etholiadol.

Safonau perfformiad

Er ein bod ni’n dal yn bwriadu casglu data gan bob ERO i’n helpu i ddeall cyflwr y cofrestrau etholiadol ar draws Prydain Fawr, nid ydym yn cynnig bod EROs yn coladu’r holl wybodaeth a restrir yn y safonau a’i hanfon atom yn rheolaidd. Dylai EROs fod yn defnyddio’r data a’r wybodaeth ansoddol a osodwyd allan yn y safonau i’w helpu i ddeall effaith eu gweithgareddau fel y gallant ganfod beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio, a lle y gellir gwneud gwelliannau. Mae’r fframwaith wedi ei ddylunio i gynorthwyo’r dadansoddi hwn a pheri i EROs ganolbwyntio ar y data a’r wybodaeth allweddol a fydd yn dangos beth sy’n gweithio’n dda a beth nad yw’n gweithio cystal.

RPF 29

Bob blwyddyn, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dosbarthu ffurflen RPF29 i EROs, y mae’n ofynnol i chi ei chyflenwi i’r Ysgrifennydd Gwladol gan nodi gwybodaeth ragnodedig arbennig sy’n ymwneud â’r gofrestr ddiwygiedig.1  

Mae’n ofynnol i chi gyflwyno’r wybodaeth hon mor fuan â phosib ar ôl cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.2  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2024