Diwyg y gofrestr ddiwygiedig

Diwyg y gofrestr ddiwygiedig

Wrth lunio diwyg y gofrestr, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • rhannu’r gofrestr yn ddosbarthiadau etholiadol
  • rhoi set unigryw o lythrennau i bob dosbarth etholiadol1
  • rhoi rhif i bob etholwr2  

Dylai’r rhifau etholwyr gael eu dosrannu yn ddilyniannol ym mhob rhan o’r gofrestr. Adwaenir llythrennau a rhif y dosbarth etholiadol gyda’i gilydd fel y rhif etholwr.

Rydym wedi creu canllaw ar wahân ar gyfer ymgymryd ag adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio, a gorsafoedd pleidleisio.

Rhaid i gofnodion yn y gofrestr ar gyfer pob etholwr arferol gael eu trefnu yn ôl stryd, a gallent ond cael eu trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw, neu gyfuniad o’r ddau lle nad yw’n rhesymol ymarferol eu rhestr yn ôl stryd.3

Marcwyr etholfraint

Gall rhai etholwyr ond pleidleisio mewn rhai mathau o etholiadau, a rhaid i’w henwau gael eu rhagddodi â llythrennau arbennig yn y gofrestr:4  

LlythyrenEtholwr
etholwr tramor sydd ond â hawl pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU a Senedd Ewrop.
Gdinesydd aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (ac eithrio gwledydd y Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon) sydd ond â hawl pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. 
B

etholwr sydd naill ai yn:

  • ddinesydd cymwys yr UE
  • ddinesydd yr UE sydd â hawl  

sydd ond â hawl pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, mewn etholiadau llywodraeth leol ac mewn etholiadau Comisynwyr yr Heddlu a Throseddu.

LArglwydd sy’n gymwys i bleidleisio yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac sydd â hawl pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.
Mgwladolyn tramor cymwys (ac eithrio dinasyddion y Gymanwlad, Gweriniaeth Iwerddon, neu’r Undeb Ewropeaidd), sydd â hawl pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol.

Cyrhaeddwyr

Adnabyddir rhai etholwyr a ychwanegir at y gofrestr fel cyrhaeddwyr. Mae’r etholwyr hyn yn unigolion sydd heb gyrraedd yr oedran pleidleisio eto, ond a fydd yn gwneud felly cyn cyhoeddiad disgwyliedig nesaf y gofrestr lawn ar gyfer rhai pleidleisiau. Mae hawl gan bobl 15 oed a rhai sy'n 14 oed gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol fel cyrhaeddwyr. Rhoddir dyddiad wrth enwau’r etholwyr hyn i ddangos y byddant wedi cyrraedd yr oedran pleidleisio.  

Etholwyr eraill

Mae angen adran ar ôl yr etholwyr arferol mewn unrhyw ddosbarth etholiadol wedi ei marcio ‘etholwyr eraill’ sy’n cynnwys unrhyw gategorïau arbennig o etholwyr nad ydynt wedi eu rhestru ym mhrif gorff y gofrestr. Rhaid eu rhestru yn ôl cyfenw yn nhrefn yr wyddor, heb gyfeiriad, wedi eu dilyn gan unrhyw etholwyr sydd wedi eu cofrestru’n ddi-enw.5  

Mae ein canllawiau ar etholwyr categorïau arbennig yn nodi mewn manylder sut dylid cynnwys etholwyr categorïau arbennig ar y gofrestr.

Rydym wedi creu adnodd sy’n dangos enghraifft o sut dylid fformatio’r gofrestr. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Tachwedd 2024