Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 1?
Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 1?
Mae gohebiaeth Llwybr 1 yn rhoi cyfle i ddeiliaid pob eiddo eich hysbysu am unrhyw newid neu wybodaeth anghywir sydd gennych ar y gofrestr etholiadol ar gyfer y cyfeiriad hwnnw.
Mae'n rhaid i chi ddosbarthu gohebiaeth i bob eiddo Llwybr 1. Mae dau opsiwn ar gael i chi ar gyfer yr ohebiaeth gyntaf:1
Os defnyddir yr opsiwn hwn, rhaid ei hanfon at bob etholwr cofrestredig 16 oed neu hŷn y mae gennych fanylion cyswllt electronig perthnasol ar ei gyfer ar yr aelwyd3
Mae angen ymateb, hyd yn oed os nad oes angen gwneud unrhyw newid ar gyfer yr eiddo4
Mae angen cymryd camau dilynol os na cheir ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser5
(h.y. os na cheir ymateb i'r e-ohebiaeth wreiddiol nac i unrhyw nodyn atgoffa gan o leiaf un person ar yr aelwyd, rhaid anfon Gohebiaeth Ganfasio A)
Gellir ei dosbarthu â llaw neu ei hanfon drwy'r post
Rhaid iddi gael ei hanfon os nad ydych wedi gallu defnyddio e-ohebiaeth, neu'n dewis peidio â gwneud hynny
Rhaid iddi gael ei hanfon os na cheir ymateb i e-ohebiaeth gan unigolyn yn yr eiddo o fewn cyfnod rhesymol7
Nid oes angen ymateb, oni bai bod angen gwneud newidiadau ar gyfer yr eiddo
Nid oes angen unrhyw cymryd camau dilynol oni bai eich bod yn ymwybodol bod angen cymryd camau pellach mewn perthynas â newidiadau ar gyfer yr eiddo hwnnw neu fod gennych reswm dros gredu hynny
Mae'n drosedd i unrhyw unigolyn fethu â'ch hysbysu am newid, neu roi gwybodaeth anwir mewn ymateb i ohebiaeth Llwybr 1.8