Ni ragnodir dyluniad e-ohebiaeth. Fodd bynnag, rydym wedi darparu e-ohebiaeth enghreifftiol, a gwybodaeth arall yn ein canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.
Rhaid i unrhyw e-ohebiaeth ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd wneud y canlynol:1
cadarnhau a yw'r wybodaeth ar gyfer pob etholwr yn gyflawn a chywir.
rhoi manylion unrhyw etholwr cymwys arall nad yw wedi'i restru ar yr ohebiaeth. Mae'r manylion hyn yn cynnwys ei enw, cenedligrwydd a chofnod a yw rhywun yn 76 oed neu’n hŷn a dyddiad geni unrhyw unigolyn 14 neu 15 oed2
Rhaid i'ch e-ohebiaeth hysbysu'r derbynnydd ei bod yn ofynnol iddo ymateb a dylai wneud y canlynol hefyd:
rhoi dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r derbynnydd
cynnwys gwybodaeth am y sianeli ymateb sydd ar gael iddo a chyfarwyddiadau ar sut i'w defnyddio