| Argraffu'r canllawiau llawn

Sut fydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif

Cam 1 - Derbyn

Bydd staff yn danfon blychau pleidleisio o’r gorsafoedd pleidleisio i’r lleoliad dilysu.

Bydd y blychau pleidleisio yn cael eu cofrestru wrth iddynt gyrraedd 

Cam 2 – Dilysu

Yn ystod y cam dilysu, mae pob blwch pleidleisio’n cael ei brosesu ar wahân i unrhyw flwch pleidleisio arall.

Fesul un, caiff yr holl flychau pleidleisio eu gwagio ar fyrddau a dangosir y blychau gwag i asiantiaid.

Mae staff yn cyfrif nifer y papurau pleidleisio sydd ym mhob blwch o bob gorsaf bleidleisio.

Mae staff yn gwirio bod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch pleidleisio yn cyfateb i nifer y papurau a roddwyd, fel y cofnodwyd ar gyfrifon papurau pleidleisio'r Swyddog Llywyddu.

Yn ystod y cam dilysu, caiff y papurau pleidleisio eu cadw wyneb i fyny.

Mewn achos o unrhyw anghysondeb rhwng nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio a’r gwaith papur a gwblhawyd gan y Swyddog Llywyddu, bydd y rhesymau dros unrhyw anghysondeb yn cael eu pennu a bydd cyfanswm terfynol wedi ei ddilysu yn cael ei gynhyrchu.

Bydd datganiad o’r dilysiad yn cael ei gynhyrchu. Gall asiantiaid weld neu gopïo’r datganiad hwn os ydynt yn dymuno.1  

Os na fydd y cyfrif yn digwydd yn syth ar ôl y cam dilysu, bydd y blychau wedi’u dilysu yn cael eu storio’n ddiogel. Gall asiantiaid cyfrif atodi eu seliau i'r blychau os ydynt yn dymuno.2

Cam 3 - Cyfrif y pleidleisiau

Cyn i'r cyfrif ddechrau, rhaid cymysgu papurau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio eraill o o leiaf un blwch pleidleisio a rhaid cymysgu papurau pleidleisio o orsaf bleidleisio â phapurau pleidleisio o o leiaf un blwch pleidleisio gorsaf bleidleisio arall.3

Mae staff yn trefnu papurau pleidleisio yn ôl plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol.

Mae staff yn cyfrif nifer y pleidleisiau sydd wedi eu bwrw i bob plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol.

Mae modd rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd heb ei gadarnhau gydag ymgeiswyr rhestr plaid a’r asiant etholiad ar gyfer y rhestr plaid honno, ymgeiswyr unigol, eu hasiant etholiad, ac unrhyw asiantiaid cyfrif a benodwyd.

Ailgyfrif 4

Gall ymgeiswyr rhestr plaid a’r asiant etholiad ar gyfer y rhestr plaid honno, ymgeiswyr unigol, eu hasiant etholiad ac yn eu habsenoldeb, asiant cyfrif a benodwyd ganddyn nhw ofyn i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy ailgyfrif y pleidleisiau.

Gellir gwrthod ailgyfrif os yw’r cais yn afresymol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Mawrth 2026