| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyfyngiadau ar ddefnyddio’r wybodaeth sydd yn y gofrestr etholiadol a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol

Mae’r gofrestr etholiadol a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol yn cynnwys data personol pobl ac felly mae eu defnydd yn cael ei reoli’n ofalus iawn.

Gellir defnyddio’r gofrestr a’r rhestrau pleidleiswyr absennol i wneud y canlynol: 

  • eich helpu i ymgyrchu
  • gwneud yn siŵr bod rhoddion yn cael eu caniatáu.

Ni ddylid rhyddhau i unrhyw berson unrhyw fanylion sy’n ymddangos yn y gofrestr etholiadol yn unig ac nid ar y gofrestr agored sydd ar gael i’w gwerthu i’r cyhoedd. 

Ni ddylid defnyddio’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol at unrhyw ddiben arall nad yw wedi'i restru uchod.

Rhaid i'r gofrestr etholiadol a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol gael eu cadw'n ddiogel.1 Pan na fydd angen y gofrestr na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol mwyach at unrhyw ddiben etholiadol, dylech ddinistrio’n ddiogel unrhyw gopïau a ddarperir i chi fel ymgeisydd yn unol â chanllawiau’r Comisiynydd. 

Os oes copïau o’r gofrestr etholiadol neu restrau o bleidleiswyr absennol wedi cael eu cyflenwi i ymgeiswyr ar restrau’r pleidiau a/neu weithwyr ymgyrchu, rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â’r gofynion hyn. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025