Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Trefnu'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau
Gellir trefnu'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau mewn sawl ffordd drwy'r ardal heddlu gyfan, a bydd angen i chi benderfynu pa opsiwn sydd orau i'ch ardal heddlu chi, yn seiliedig ar yr etholiadau sy'n cael eu cyfuno, a yw dirprwyon wedi cael eu penodi, eich amgylchiadau lleol ac amgylchiadau'r Swyddogion Canlyniadau Lleol a, lle y bo'n berthnasol, Swyddogion Canlyniadau eraill yn eich ardal heddlu.
Mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn unig, Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gyfrifol am ddilysu cyfrifon papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau ar gyfer eu hardal bleidleisio, oni bai eich bod wedi cadw'r cyfrifoldeb hwnnw yn ôl i chi'ch hun drwy hysbysu'r Swyddogion Canlyniadau Lleol perthnasol.
Ar ôl cwblhau'r weithdrefn ddilysu mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn unig, rhaid i Swyddogion Canlyniadau Lleol eich hysbysu am gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd.1
Os caiff y pleidleisiau eu cyfrif mewn lleoliad gwahanol i'r broses ddilysu, mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau Lleol selio'r papurau pleidleisio wedi'u dilysu mewn pecynnau â rhestrau cynnwys a'u hanfon i leoliad y cyfrif, ynghyd â'r cyfrifon papurau pleidleisio a'r datganiad dilysu.2 Cewch gyfarwyddo Swyddogion Canlyniadau Lleol i gynnal gweithdrefnau dilysu ychwanegol ar ôl i'r dogfennau hyn gael eu cyflwyno i leoliad y cyfrif.
Lle y caiff etholiadau eu cyfuno, bydd angen i chi gydgysylltu â'ch tîm prosiect mor gynnar â phosibl yn y broses gynllunio a phenderfynu ar y ffordd y caiff y broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau ei threfnu yn eich ardal er mwyn sicrhau'r broses fwy effeithiol a thryloyw.
Lle mae'r bleidlais mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cael ei chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall, y Swyddog Canlyniadau perthnasol fydd yn gyfrifol am ddilysu'r papurau pleidleisio ym mhob etholiad. Fodd bynnag, y Swyddog Canlyniadau Lleol fydd yn gyfrifol o hyd am gyfrif y pleidleisiau ar gyfer ei ardal bleidleisio. Felly, lle mae etholiadau wedi cael eu cyfuno, dylech gydgysylltu â'r Swyddog Canlyniadau perthnasol er mwyn sicrhau cysondeb y broses ddilysu drwy'r ardal heddlu gyfan.
Lle mae etholiadau wedi cael eu cyfuno, bydd angen i chi gael y datganiad dilysu gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol er mwyn eich galluogi i wirio cyfansymiau'r cyfrifon lleol yn erbyn y datganiad dilysu a nodi unrhyw amrywiannau posibl. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau Lleol hefyd eich hysbysu am gynnwys y datganiad o gyfansymiau cyfrifon lleol, ar ôl iddo gael ei baratoi.
Mae rhagor o wybodaeth am ddilysu a chyfrif yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol ar reoli'r broses ddilysu a rheoli'r cyfrif.
Mae dau opsiwn cyffredinol ar gyfer trefnu'r prosesau cyfrif ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ardal yr heddlu:
- Cyfrifon lleol unigol a choladu canolog gan Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu: O dan yr opsiwn hwn, byddai'r pleidleisiau yn cael eu dilysu a'u cyfrif yn lleoliadau cyfrifon lleol, a byddai'r cyfansymiau lleol yn cael eu hanfon ymlaen atoch mewn lle canolog. Os felly, byddai angen i chi sicrhau bod y broses sydd ar waith ar gyfer trosglwyddo a derbyn cyfansymiau oddi wrth bob Swyddog Canlyniadau Lleol i'r man canolog yn gallu sefydlu trywydd archwilio clir, yn amserol, ac yn cefnogi'r broses o ddatblygu canlyniad cywir.
- Cyfrif canolog i ardal yr heddlu: Mae dau brif amrywiad ar gyfrif canolog: cyfrif lle y caiff pleidleisiau eu dilysu'n lleol cyn cael eu trosglwyddo i leoliad cyfrif canolog, lle y byddai'r holl bleidleisiau ar gyfer ardal yr heddlu yn cael eu cyfrif wedyn; neu gyfrif lle y caiff pleidleisiau ar gyfer pob ardal bleidleisio eu dilysu a'u cyfrif mewn un lleoliad cyfrif canolog.
Fodd bynnag, mae amrywiadau o fewn y ddau opsiwn hyn a gellir trefnu cyfrifon mewn ffyrdd eraill o fewn ardal heddlu. Er enghraifft, o fewn ardal heddlu, gallai rhai ardaloedd awdurdod lleol gyfrif yn lleol, tra bydd eraill yn dod ynghyd a chynnal cyfrifon ar sail fwy canolog.
Dylech gydgysylltu'n agos â'r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal wrth benderfynu sut i weithredu. Mewn ardaloedd lle y caiff y bleidlais yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall, dylech weithio'n agos gyda'r Swyddogion Canlyniadau perthnasol i gytuno ar sut i weithredu. Pa opsiwn bynnag a ddewisir, bydd risgiau a manteision yn gysylltiedig ag ef. Bydd angen i chi nodi'r rhain wrth i chi ddatblygu'ch cynigion ar gyfer ymgynghoriad ac, ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, weithio gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol (neu'r Swyddog Canlyniadau perthnasol yn achos etholiadau cyfun) i gynllunio sut y byddwch yn rheoli ac yn lliniaru'r risgiau.
- 1. Parag 49(6), Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PPCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 50, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2