| Argraffu'r canllawiau llawn

Egwyddorion ar gyfer prosesau dilysu, cyfrif a choladu canlyniadau effeithiol

Dylech sicrhau bod eich trefniadau dilysu a chyfrif yn bodloni'r egwyddorion allweddol canlynol ar gyfer prosesau dilysu a chyfrif effeithiol:

  • mae pob proses yn dryloyw, gyda thrywydd archwilio clir a diamwys. Er enghraifft:
    • caiff popeth ei wneud yng ngolwg pawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol
    • rhoddir digon o wybodaeth i'r rhai sy'n bresennol am y prosesau i'w dilyn
    • caiff gwybodaeth ei chyfleu mewn modd cywir ac agored
  • cedwir cyfrinachedd y bleidlais bob amser
  • diogelir papurau pleidleisio a deunyddiau ysgrifennu eraill bob amser
  • mae'r broses ddilysu yn arwain at ganlyniad cywir. Mae hyn yn golygu bod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch naill ai'n cyfateb i nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd fel y'i nodwyd ar y cyfrif papurau pleidleisio neu, fel arall: 
    • bod yr hyn sydd wedi achosi'r amrywiant wedi cael ei nodi a gellir ei esbonio, a/neu
    • fod y blwch wedi cael ei ailgyfrif o leiaf ddwywaith, nes bod yr un nifer o bapurau pleidleisio yn cael eu cyfrif ar ddau achlysur olynol.
  • mae'r broses gyfrif yn arwain at ganlyniad cywir:
    • lle mae cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd i bob ymgeisydd a chyfanswm nifer y pleidleisiau a wrthodwyd, yn cyfateb i gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a roddwyd ar y datganiad dilysu ar gyfer yr etholiad
  • lle mae'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau a choladu'r canlyniad yn amserol

Wrth ddatblygu proses o goladu'r canlyniad, bydd angen i chi ystyried pob cam allweddol sy'n cyfrannu at y canlyniad cyffredinol, gan gynnwys dilysu'r papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau ym mhob un o'r ardaloedd pleidleisio, coladu'r cyfansymiau lleol a chyfrifo'r canlyniad, a sicrhau y caiff y rhain eu trefnu, eu rheoli a'u cyflawni yn y fath fodd ag sy'n sicrhau y gellir cydymffurfio â'r egwyddorion allweddol hyn.

Yn ogystal ag ystyried sut i sicrhau y bydd eich prosesau yn eich galluogi i gydymffurfio â'r egwyddorion allweddol, dylech ystyried ffactorau ymarferol perthnasol eraill a fydd yn effeithio ar y ffordd y caiff y prosesau dilysu a chyfrif eu trefnu a'u hamseriad, megis:

  • etholiadau eraill sy'n cael eu cynnal yn yr ardal heddlu
  • nifer yr awdurdodau lleol yn yr ardal heddlu
  • y nifer sy'n pleidleisio 
  • daearyddiaeth yr ardal heddlu
  • maint a chapasiti'r lleoliadau
  • y gallu i sicrhau tryloywder i ymgeiswyr, asiantiaid a'r rhai sy'n arsylwi yn y lleoliadau
  • cost defnyddio'r lleoliadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Rhagfyr 2023