Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Amseriad y broses dilysu a'r cyfrif
Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, bydd angen i chi a'r tîm prosiect gytuno ar y ffordd y byddwch yn gweithredu o ran amseriad dilysu a chyfrif pleidleisiau a chyfrifo'r canlyniad drwy'r ardal heddlu gyfan. Rhaid i'r broses o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio, prosesu pleidleisiau post a dderbynnir ar y diwrnod, a chyfrif y pleidleisiau ddechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau.1 Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, chi sy'n gyfrifol am hysbysu Swyddogion Canlyniadau Lleol sut y byddwch yn cyd-drefnu'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau.
Lle y caiff y bleidlais mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall, gallwch gyfarwyddo pa Swyddog Canlyniadau neu Swyddog Cyfrif bynnag sy'n gyfrifol am ddilysu a chyfrif y papurau pleidleisio ynghylch pryd y bydd yn rhaid dechrau'r broses ddilysu. Dylai unrhyw gyfarwyddyd o'r fath ynglŷn ag amseriad gael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r Swyddog(ion) Canlyniadau perthnasol er mwyn sicrhau bod modd cydymffurfio'n ymarferol.
Yr egwyddor gyffredinol a ddylai fod yn sail i benderfyniadau Swyddogion Canlyniadau ynglŷn ag amseriad cyfrifon etholiadol yw'r angen i sicrhau canlyniad cywir y mae pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn ymddiried ynddo.
Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, dylech ystyried yr egwyddor hon yn ofalus wrth benderfynu pryd, ble a sut y caiff y pleidleisiau ym mhob ardal bleidleisio eu dilysu a'u cyfrif. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn hyderus bod eich prosesau chi a phrosesau'r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn cael adnoddau ac yn cael eu rheoli mewn ffordd sy'n ei gwneud yn bosibl i'r cyfrif sicrhau canlyniad amserol.
Dylai'ch penderfyniad ynglŷn ag amseriad y broses dilysu a chyfrif adlewyrchu'r canlynol:
- Pleidlais unigol yw pob etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sy'n arwain at un canlyniad ar gyfer ardal yr heddlu yn ei chyfanrwydd. Mae cyfanswm pob ardal bleidleisio yn cyfrif tuag at ganlyniad ar gyfer ardal yr heddlu yn ei chyfanrwydd ac felly bydd yn bwysig nodi cyfnod penodol pryd y caiff yr holl bleidleisiau eu cyfrif ac y caiff cyfansymiau eu cyhoeddi ar gyfer pob ardal bleidleisio.
- Rhaid i ganlyniad yr etholiad fod yn gywir. Yn sail i'r penderfyniad ynglŷn ag amseriad y broses dilysu a chyfrif mae'r angen i sicrhau canlyniad cywir y gall pleidleiswyr ac ymgeiswyr ymddiried ynddo. Felly, wrth bennu'r cyfnod ar gyfer dilysu a chyfrif, rhaid pennu'r cyfryw gyfnod fel y bydd modd i Swyddogion Canlyniadau Lleol gael digon o adnoddau ar ei gyfer a chynnal proses dilysu a chyfrif wedi'i threfnu'n dda.
- Y posibilrwydd y caiff etholiadau eu cyfuno yn ardal yr heddlu a faint o etholiadau a gaiff eu cyfuno. Lle y caiff etholiadau eu cyfuno, p'un a yw hynny mewn rhai o'r ardaloedd pleidleisio neu bob un, bydd angen i chi ystyried hyn wrth nodi'r opsiynau ar gyfer amseriad dilysu a chyfrif y pleidleisiau ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Dylech wneud y canlynol:
- cael gwybodaeth gan Swyddogion Canlyniadau Lleol am yr etholiadau eraill sy'n cael eu cynnal a'r cynlluniau ar gyfer dilysu a chyfrif yn yr etholiadau eraill, a defnyddio'r wybodaeth hon i lywio'ch rhagdybiaethau cynllunio.
- nodi'n glir, wrth roi gwybod am y cynlluniau ynglŷn â phryd i ddilysu a chyfrif y pleidleisiau, pa ffactorau sy'n ymwneud â chyfuno etholiadau rydych wedi'u hystyried wrth eu llunio, ac unrhyw oblygiadau penodol i ardaloedd lle y cyfunir etholiadau o ganlyniad i'ch penderfyniadau.
- sicrhau eich bod yn rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am yr holl ardaloedd pleidleisio, gan nodi lle y cyfunir etholiadau a lle mae hyn wedi cael effaith ar y penderfyniad, gan gynnwys lle mae wedi arwain at roi trefniadau gwahanol ar waith.
- parhau i adolygu'ch cynlluniau er mwyn ymdrin ag unrhyw sefyllfaoedd sy'n codi, megis cyhoeddi isetholiad ar yr un diwrnod ag etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
- 1. Paragraff 48(1), Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1