Os bydd ymgeisydd yn marw yn ystod cyfnod yr etholiad, mae'r weithdrefn y dylid ei dilyn mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn dibynnu pryd y cewch eich hysbysu am farwolaeth yr ymgeisydd. Yr adeg y cewch brawf o farwolaeth yr ymgeisydd yw'r ffactor perthnasol, nid union amser y farwolaeth.1
Prawf o farwolaeth cyn i'r bleidlais agor
Os ceir prawf o farwolaeth ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys mewn etholiad a ymleddir cyn i'r bleidlais agor, rhaid i chi ddirymu'r hysbysiad pleidleisio ac ni chaiff yr etholiad ei gynnal. Rhaid cynnal etholiad newydd.
Prawf o farwolaeth ar ôl i'r bleidlais agor a chyn i'r canlyniad gael ei ddatgan
Os ceir prawf o farwolaeth ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys mewn etholiad a ymleddir ar ôl i'r bleidlais agor ond cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan, rhaid i chi gyfarwyddo y dylid rhoi'r gorau i'r etholiad. Rhaid cynnal etholiad newydd.
Yn yr achos hwn, gan y bydd y bleidlais wedi dechrau, rhaid i'r ddogfennaeth (h.y. papurau pleidleisio a gyflwynwyd a phapurau nas cyflwynwyd, ac ati) gael ei dychwelyd at y Swyddog Canlyniadau perthnasol a'i selio yn y ffordd arferol.
Rhaid selio unrhyw bleidleisiau post a ddychwelir mewn pecynnau a rhaid selio unrhyw amlenni nas agorwyd ar adeg yr hysbysiad o'r farwolaeth mewn pecynnau heb eu hagor.
Amserlen ar gyfer yr etholiad newydd o ganlyniad i farwolaeth ymgeisydd
Os bydd angen cynnal etholiad newydd pan fo'r etholiad wedi'i ddirymu neu y rhoddwyd y gorau iddo oherwydd bod ymgeisydd wedi marw, byddwn ar gael i'ch helpu i nodi a chymryd y camau priodol.