Ni all ymgeisydd sefyll etholiad mewn mwy nag un etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a gynhelir ar yr un dyddiad. Rhaid i ymgeisydd sydd wedi'i enwebu'n ddilys ar gyfer mwy nag un ardal heddlu dynnu'n ôl o fod yn ymgeisydd ym mhob ardal namyn un, cyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw yn ôl. Os na fydd yn gwneud hyn, tybir ei fod wedi tynnu'n ôl o fod yn ymgeisydd ym mhob ardal heddlu.2
Etholiadau diwrthwynebiad
Bydd yr etholiad yn un diwrthwynebiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys:
dim ond un enwebiad dilys a geir
caiff yr holl enwebiadau dilys eu tynnu'n ôl yn briodol erbyn y terfyn amser heblaw am un,
Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, rhaid i chi ddatgan pa ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys a gaiff ei ethol.
Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad o enw a disgrifiad (os o gwbl) yr ymgeisydd a etholwyd.
Rhaid i chi anfon copi o'r hysbysiad at y Gweinidog ac at bob Swyddog Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu, a dylech gymryd camau i sicrhau bod pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn cyhoeddi'r hysbysiad yn ei ardal bleidleisio.3
1. Paragraffau 13 ac 14, Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1