Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Pecynnau enwebu

Dylech baratoi pecyn enwebu perthnasol ar gyfer unrhyw un sy'n mynegi diddordeb mewn sefyll etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid ar gael yn ein canllawiau. 
 
Yn Essex, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Northampton a Swydd Stafford, mae'r ymgeisydd a etholir i rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.1

Rydym wedi paratoi dwy set o bapurau enwebu i sefyll etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy'n cynnwys yr holl ffurflenni sydd eu hangen i enwebu ar gyfer yr etholiad.

The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.

Rydym hefyd wedi llunio rhestr wirio enwebiadau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n nodi'r hyn y bydd angen i chi ei ystyried a phethau penodol i gadw llygad amdanynt wrth benderfynu ar enwebiad.

Dylai'r pecyn enwebu gynnwys y canlynol:

  • ffurflen enwebu
  • ffurflen cyfeiriad cartref
  • ffurflen cydsynio ag enwebiad
  • ffurflen i'r ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) roi hysbysiad o benodiad asiant etholiad
  • ffurflenni i'r asiant etholiadol roi hysbysiad o benodiad is-asiantiaid
  • ffurflenni ar gyfer yr ymgeisydd neu'r asiant etholiadol i hysbysu ynghylch penodi asiantiaid pleidleisio, asiantiaid pleidleisiau post ac asiantiaid cyfrif
  • tystysgrif awdurdodi er mwyn caniatáu i ymgeisydd sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig
  • ffurflen i ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ofyn am ddefnyddio arwyddlun 
  • manylion am sut y dylai'r ernes gael ei thalu, gan gynnwys dulliau o dalu a dderbynnir
  • canllawiau ysgrifenedig i ymgeiswyr ac asiantiaid ynglŷn ag agweddau allweddol ar y broses etholiadol, gan gynnwys cymhwyso ac anghymwyso ar gyfer etholiad, y broses enwebu, beth y dylid ac na ddylid ei wneud wrth ymgyrchu, cael gafael ar drafodion etholiadol a'r hyn sy'n digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan
  • manylion cyswllt y Swyddog Canlyniadau Lleol
  • copi o'r Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr, sy'n nodi'r hyn a gaiff ac na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio, wrth annog etholwyr i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, ac yn y gymuned. Efallai y byddwch yn nodi'r angen i ddatblygu a cheisio cytundeb
  • i ddarpariaethau lleol penodol sy'n ategu telerau'r Cod, er mwyn mynd i'r afael â risgiau lleol a nodwyd.
  • manylion am sut i gael copi o'r gofrestr etholiadol a rhestrau'r pleidleiswyr absennol ar gyfer pob ardal bleidleisio yn ardal yr heddlu, a ffurflenni i wneud y fath geisiadau ynghyd â gwybodaeth am ble i anfon y ceisiadau hyn. Dylech danlinellu'r ffaith mai dim ond yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 a deddfwriaeth diogelu data y gellir defnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol.
  • gwybodaeth am derfynau gwariant ymgeiswyr yn yr etholiad a chanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar wariant a rhoddion
  • ffurflen i ymgeisydd dynnu allan o'r etholiad a gaiff ei ymladd os bydd yn penderfynu gwneud hynny ar ôl iddo gael enwebiad dilys
  • gwybodaeth am drefniadau lleol 
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024