Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Anerchiadau etholiadol

Gall pob ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddarparu anerchiad etholiadol i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu i'w gyhoeddi ar wefan a ddarperir gan y Gweinidog. Rhaid i anerchiad etholiadol ymgeisydd gael ei baratoi gan ei asiant etholiad a'i gyflwyno i chi ar ffurf a ragnodir o dan y gyfraith erbyn dyddiad cau a bennir gennych.1

Rhaid i chi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad, gyhoeddi hysbysiad o'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno anerchiadau etholiadol i chi.2  

Er mwyn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael yr un profiad ac yn gweithio at yr un dyddiadau cau ni waeth ym mha ardal heddlu y maent yn sefyll, mae Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu mewn etholiadau blaenorol wedi cytuno i bennu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno anerchiadau etholiadol am hanner dydd ar y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau. Mae'r dyddiad cau hwn wedi'i nodi yn ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.

Dylech annog ymgeiswyr ac asiantiaid i gyflwyno'r anerchiad yn ffurfiol i chi cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu amser iddo gael ei ddychwelyd i'r asiant os oes angen ei ddiwygio neu ei gywiro ac er mwyn iddo gael ei ailgyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau. Dylech gydnabod eich bod wedi derbyn anerchiad ymgeisydd er mwyn rhoi trywydd archwilio clir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023