Camgymeriad y deuir o hyd iddo ar y gofrestr etholiadol sydd wedi digwydd o ganlyniad i wall a wnaed gennych chi neu eich staff yw gwall clercol. Er enghraifft, gwall wrth drawsgrifio gwybodaeth o gais neu lle rydych wedi methu ag ychwanegu ymgeisydd llwyddiannus at y gofrestr oherwydd gwall prosesu clercol.1
Gallwch benderfynu bod y gofrestr etholiadol yn cynnwys gwall clercol unrhyw bryd a dylai2
unrhyw wallau clercol gael eu cywiro cyn gynted ag y byddant yn cael eu dwyn i'ch sylw a'u hadlewyrchu yn y diweddariad nesaf ar y gofrestr.
Os bydd gwall clercol wedi'i nodi ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad newid diwethaf cyn etholiad, gallwch benderfynu cywiro'r gwall hyd at 9pm ar y diwrnod pleidleisio er mwyn iddo fod yn weithredol mewn da bryd ar gyfer etholiad.3
Bydd yn rhaid trosglwyddo'r manylion i'r Swyddog Llywyddu ar gyfer yr orsaf bleidleisio briodol a dylech gytuno ar broses ar gyfer gwneud hynny ymlaen llaw gyda'r Swyddog Canlyniadau.4