Etholiad cyffredinol Senedd y DU – Llawlyfr y Cyfryngau
Info about UKPGEs
Mae 650 o etholaethau Seneddol yn y DU. Caiff pob etholaeth ei chynrychioli gan un Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin. Cafodd nifer yr etholaethau ym mhob rhan o'r DU ei newid yn dilyn yr adolygiad o'r ffiniau yn 2023.
Amserlen Etholiad
Digwyddiad | Dyddiad |
---|---|
Dechrau'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau | 365 o ddiwrnodau cyn y diwrnod pleidleisio |
Diddymu Senedd y DU | Dydd Iau 30 Mai |
Dechrau cyfnod a reoleiddir 'ymgyrch fer' ar gyfer gwariant ar weithgarwch ymgyrchu | 24 diwrnod cyn yr etholiad ar y cynharaf |
Derbyn gwrit Dogfennau cyfreithiol yw gwritiau sy'n awdurdodi'r broses o gynnal etholiad cyffredinol. Pan gaiff y Senedd ei diddymu cyn etholiad cyffredinol, rhoddir gwritiau i awdurdodau lleol yn datgan y caiff etholiad ei gynnal ym mhob etholaeth. | Dydd Gwener 31 Mai |
Cyhoeddi dyddiad cau ar gyfer yr hysbysiad o etholiad | Dydd Mawrth 4 Mehefin (4pm) |
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu | Hyd nes ddydd Gwener 7 Mehefin (4pm) |
Cyhoeddi rhestrau ymgeiswyr | Dydd Gwener 7 Mehefin (am 5pm) Os gwneir gwrthwynebiad/gwrthwynebiadau: Ddim cyn gwaredu gwrthwynebiad/gwrthwynebiadau ond ddim hwyrach na 10 Mehefin (4pm) |
Dyddiad cau i wneud cais i gofrestru i bleidleisio | Dydd Mawrth 18 Mehefin |
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy'r post, gwneud cais am bleidlais bost drwy ddirprwy, ac ar gyfer newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy'n bodoli eisoes | Dydd Mercher 19 Mehefin (5pm) |
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy | Dydd Mercher 26 Mehefin (5pm) |
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr | Dydd Mercher 26 Mehefin (5pm) |
Y diwrnod pleidleisio | 7am i 10pm |
Proses gyfrif etholiad | I ddechrau cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl 10pm |
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant ymgeiswyr i'r swyddogion canlyniadau | 35 diwrnod ar ôl datgan y canlyniad |
Y dyddiad cau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi gwario £250,000 neu lai i gyflwyno ffurflenni gwariant ar weithgarwch ymgyrchu i'r Comisiwn Etholiadol | Tri mis ar ôl y diwrnod pleidleisio |
Y dyddiad cau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi gwario mwy na £250,000 i gyflwyno ffurflenni gwariant ar weithgarwch ymgyrchu i'r Comisiwn Etholiadol | Chwe mis ar ôl y diwrnod pleidleisio |
Ymgeiswyr
Rhaid i ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol, ar y diwrnod pleidleisio:
- fod yn 18 mlwydd oed o leiaf; a
- bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd yng Ngweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad
Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr gael eu cofrestru i bleidleisio, na byw yn yr etholaeth Seneddol y maent am sefyll ynddi.
Mae'r rheolau ar gyfer sefyll etholiad a'r anghymwysiadau yn gymhleth. Ceir rhagor o wybodaeth yn Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Y cynharaf y gall rhywun ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod y diddymir Senedd y DU.
Gall darpar ymgeiswyr gael eu dewis gan eu plaid, neu gyhoeddi eu bwriad i sefyll cyn y dyddiad hwn.
Unwaith y caiff etholiad ei alw, mae angen i bob darpar ymgeisydd gyflwyno'r canlynol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer yr etholaeth y mae am sefyll ynddi erbyn y dyddiad cau perthnasol, gan gynnwys:
- ffurflen enwebu wedi'i chwblhau (ni all darpar ymgeiswyr gyflwyno'r ffurflen enwebu nes y dyddiad a nodir ar yr hysbysiad o etholiad)
- ffurflen cyfeiriad cartref wedi'i chwblhau
- ei gydsyniad i'r enwebiad
- ernes o £500
Hefyd, rhaid i ymgeiswyr sy'n sefyll dros blaid wleidyddol gyflwyno'r canlynol:
- tystysgrif gan y blaid wleidyddol sy'n rhoi awdurdod i ddefnyddio enw'r blaid neu ddisgrifiad o'r blaid fel y'i cofrestrwyd gyda'r Comisiwn Etholiadol
- cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o arwyddluniau cofrestredig y blaid (dewisol)
Gall ymgeiswyr sy'n sefyll dros blaid wleidyddol ofyn am gael defnyddio enw'r blaid neu ddisgrifiad o'r blaid ar y papur pleidleisio, ond ni all ofyn am y ddau. Yng Nghymru, caiff ymgeisydd ddefnyddio naill ai'r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg neu'r ddwy fersiwn o enw neu ddisgrifiad y blaid, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru â'r Comisiwn.
Dim ond y gair 'Independent' (a/neu 'Annibynnol' yng Nghymru) y gall ymgeiswyr annibynnol ei ddefnyddio ar y papur pleidleisio; neu gallant ddewis peidio â chael disgrifiad. Byddant yn penderfynu ar hyn wrth gwblhau eu ffurflen enwebu.
Dim ond y pleidiau gwleidyddol hynny sydd wedi'u cofrestru â'r Comisiwn Etholiadol y gellir rhoi eu henw a'u disgrifiadau a'u harwyddluniau cymeradwy ar bapur pleidleisio. Os nad yw plaid wedi'i chofrestru â'r Comisiwn, gall fynd ati i ymgyrchu mewn etholiad o hyd, ond byddai'n rhaid i unrhyw ymgeisydd y mae'n dymuno iddo sefyll ar ei rhan naill ai gael dim byd neu 'independent' (a/neu 'Annibynnol' yng Nghymru) wrth ymyl ei enw, yn hytrach nag enw plaid.
Nac oes, gall person sefyll fel ymgeisydd annibynnol, h.y. nid ar ran unrhyw blaid wleidyddol.
Rheolau ar wariant a rhoddion pleidiau gwleidyddol
Cyfnod a reoleiddir
Y cyfnod a reoleiddir yw'r cyfnod cyn etholiad pan fydd y rheolau ar wariant etholiadol yn gymwys i weithgarwch ymgyrchu. Rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am unrhyw wariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n dechrau 365 o ddiwrnodau cyn etholiad cyffredinol.
Gwariant
Y swm y gall plaid wleidyddol sy'n ymladd etholiad cyffredinol ym Mhrydain Fawr ei wario yw'r mwyaf o naill ai:
- swm penodedig, fel y diffinnir isod
neu - £54,010 wedi'i luosi â nifer y seddau y mae plaid yn eu hymladd ym mhob rhan o Brydain Fawr. Mae gan bob rhan o Brydain Fawr derfyn ar wahân sy'n seiliedig ar nifer y seddau y mae plaid yn eu hymladd ym mhob ardal.
Swm penodedig
Rhan o Brydain Fawr | Terfyn gwariant |
---|---|
Lloegr | £1,458,440 |
Yr Alban | £216,060 |
Cymru | £108,030 |
£54,010 wedi'i luosi â nifer y seddau y mae plaid yn eu hymladd
Rhan o Brydain Fawr | Cyfanswm y seddi |
---|---|
Lloegr | 543 |
Yr Alban | 57 |
Cymru | 32 |
Er enghraifft:
Mae plaid yn ymladd 10 etholaeth yng Nghymru, 200 o etholaethau yn Lloegr ac 20 o etholaethau yn yr Alban. Byddai terfyn gwariant y blaid yn fwy na'r swm penodedig a ddangosir yn y tabl cyntaf.
Cyfrifiad ar gyfer terfynau gwariant | |
---|---|
Lloegr | £10,802,000 (200 x £54,010) |
Yr Alban | £1,080,200 (20 x 54,010) |
Cymru | £540,100 (10 x 54,010) |
Ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy'n ymladd Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig yng Ngogledd Iwerddon, terfyn gwario eu plaid yw:
£54,010 wedi'i luosi â nifer y seddau y mae plaid yn eu hymladd yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig.
Mae gwariant pleidiau yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, costau:
- hysbysebion plaid o unrhyw fath, fel posteri, hysbysebion mewn papurau newydd, hysbysebion a ddangosir ar-lein, negeseuon a hyrwyddir ar y cyfryngau cymdeithasol neu fideos YouTube
- deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr, fel llythyrau, taflenni neu negeseuon e-bost na chânt eu hanfon mewn ymateb i ymholiadau penodol
Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau sy'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant yn ein canllawiau i bleidiau gwleidyddol.
Rhoddion
Cyn i blaid dderbyn unrhyw rodd neu fenthyciad sy'n fwy na £500, rhaid iddi gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei bod yn gwybod pwy yw'r gwir ffynhonnell a chadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir. Mae gan y blaid rwymedigaeth gyfreithiol i gadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir cyn eu derbyn.
Nid oes unrhyw derfynau ar nifer y rhoddion y gall plaid eu derbyn. Fodd bynnag, dim ond gan roddwr a ganiateir y gall dderbyn rhodd. Rhoddwr a ganiateir yw:
- unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, gan gynnwys y rhai hynny sydd dramor a'r rhai sy'n gadael cymynroddion
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr (neu blaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru yn y DU ar gyfer pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon)
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas gyfeillgar neu ddiwydiannol a darbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
Hefyd, gall pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon dderbyn rhoddion gan ddinasyddion Iwerddon a chwmnïau o'r DU neu Iwerddon.
Adrodd
Rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am eu gwariant i'r Comisiwn Etholiadol. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd am wariant o £250,000 neu lai yw tri mis o'r diwrnod pleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd am wariant dros £250,000 yw chwe mis o'r diwrnod pleidleisio.
Rhaid i bencadlys canolog pleidiau gwleidyddol gyflwyno adroddiadau wythnosol ar roddion a benthyciadau sy'n nodi'r rhoddion a'r benthyciadau dros £11,180 a dderbyniwyd ganddynt ers diddymu'r Senedd a hyd at y diwrnod pleidleisio. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi'r rhain yn wythnosol yn ystod yr ymgyrch.
Rheolau ynglŷn â gwariant a rhoddion ymgeiswyr
Y cyfnod a reoleiddir yw'r cyfnod cyn etholiad pan fydd y rheolau ar wariant etholiadol yn gymwys i weithgarwch ymgyrchu. Rhaid i ymgeiswyr roi gwybod am unrhyw wariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod hwn.
Gall fod dau gyfnod a reoleiddir i ymgeiswyr y cyfeirir atynt fel yr 'ymgyrch hir' a'r 'ymgyrch fer', pan fydd terfynau gwariant yn gymwys.
Nid oes unrhyw ymgyrch hir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.
Bydd yr ymgyrch fer ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd person yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio.
Y dyddiad cynharaf y gall person ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod y diddymir Senedd y DU.
Os na chaiff bwriad unigolyn i sefyll fel ymgeisydd ei gyhoeddi cyn y diwrnod y diddymir y Senedd, bydd yr ymgyrch fer naill ai'n dechrau ar y diwrnod y bydd yn cyhoeddi ei fwriad i sefyll, neu'r dyddiad y caiff ei enwebu fel ymgeisydd, p'un bynnag fydd gynharaf.
Gwariant
Ym mis Tachwedd 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i'r terfynau gwariant. Y terfynau newydd ar gyfer ymgeiswyr yw:
- Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig (ymgyrch fer): £11,390 + 8c (bwrdeistref) / 12c (sir) fesul etholwr
Ni chaiff gwariant gan ymgeiswyr i hyrwyddo eu hymgeisyddiaeth cyn i'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgeiswyr ddechrau ei reoleiddio, ac nid oes rhaid adrodd arno.
Bydd unrhyw wariant gan blaid ar gyfer hyrwyddo ei hymgeiswyr cyn i gyfnod a reoleiddir yr ymgeisydd ddechrau yn dod o dan reolau gwariant pleidiau.
Ceir canllawiau ar wariant pleidiau ac ymgeiswyr ar wefan y Comisiwn.
Mae nifer y pleidleiswyr mewn etholaeth benodol yn seiliedig ar y gofrestr etholwyr fel y mae ar y dyddiad olaf y gellir cyhoeddi hysbysiad etholiad.
Gall ymgeiswyr gysylltu â'u swyddfa etholiadau leol i ofyn am nifer diweddaraf yr etholwyr er mwyn eu helpu i gynllunio eu gwariant yn ystod yr ymgyrch.
Mae gwariant ymgeisydd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, costau:
- hysbysebu o unrhyw fath, fel posteri, hysbysebion mewn papurau newydd, gwefannau neu'r cyfryngau cymdeithasol
deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr, fel llythyrau, taflenni neu negeseuon e-bost na chânt eu hanfon mewn ymateb i ymholiadau penodol
Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau sy'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant yn ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Rhoddion
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw rodd a dderbynnir sy'n werth mwy na £50 yn dod o ffynhonnell a ganiateir. Rhaid i roddion nad ydynt yn dod o ffynhonnell a ganiateir gael eu dychwelyd i'r rhoddwr o fewn 30 diwrnod. Ar ôl hynny, gall y rhodd gael ei fforffedu.
Diffinnir rhoddwyr a ganiateir yn y DU fel:
- unigolyn ar un o gofrestrau etholwyr y DU
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas lesiant sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn Y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan rhoddion sydd â gwerth o £50 neu lai ar eu ffurflen gwariant a rhoddion. Nid oes unrhyw derfynau ar nifer y rhoddion y gall ymgeisydd eu derbyn yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Weithiau. Nid yw gwariant fel arfer yn cael ei gyfrif yn erbyn terfynau gwariant yr ymgeisydd a'r blaid. Bydd eitem o wariant fel arfer yn cael ei gynnwys mewn un categori neu'r llall:
- mae gwariant ar weithgarwch sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn debygol o gyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd – er enghraifft, llythyr a anfonir at bleidleiswyr yn cyflwyno'r ymgeisydd a'i bolisïau lleol
- mae gwariant ar weithgarwch sy'n hyrwyddo'r blaid ac nid yr ymgeisydd yn debygol o gael ei gwmpasu gan y rheolau ar wariant ymgyrchu plaid – er enghraifft, hysbyseb papur newydd lleol sy'n cynnwys polisïau cenedlaethol a logo'r blaid, ond nad yw'n sôn am yr ymgeisydd lleol na materion lleol a dargedwyd yn benodol
Yn ystod yr ymgyrch fer, gall pleidiau gwleidyddol wario hyd at £700 yn hyrwyddo ymgeisydd penodol ym mhob etholaeth heb awdurdodaeth asiant yr ymgeisydd hwnnw. Pan fydd plaid wleidyddol yn gwario arian yn hyrwyddo ymgeisydd penodol gydag awdurdodaeth yr asiant, yna bydd y gwariant hwnnw yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol.
Mae llawer o bleidiau gwleidyddol yn cynnal ‘cronfeydd ymladd’ lleol i'w hymgeisydd. Os yw'r gronfa wedi'i rheoli gan y blaid ac nid yr ymgeisydd, yna caiff rhoddion i'r gronfa eu trin fel rhoddion a roddir i'r blaid fel arfer, oni chaiff y rhoddion eu rhoi'n benodol tuag at ymgyrch yr ymgeisydd.
Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid rhoi gwybod am unrhyw roddion sy'n fwy na £50 a wnaed gan y blaid i ymgeisydd ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd.
Adrodd
Rhaid i asiantiaid ymgeiswyr gyflwyno eu ffurflenni gwariant ar gyfer ymgyrch fer i'w Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o fewn 35 diwrnod i ddatgan canlyniad yr etholiad.
Os na eir i unrhyw wariant, rhaid i'r asiant gyflwyno ffurflen dim trafodion.
Gall mynd y tu hwnt i'r terfyn gwariant fod yn drosedd. Fel arfer, yr heddlu lleol perthnasol sy'n ystyried yr honiadau sy'n berthnasol i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gan gynnwys troseddau'n ymwneud â gwariant ymgeisydd.
Er bod gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i fonitro cydymffurfiaeth â rhannau o'r Ddeddf sy'n ymwneud â threuliau ymgeiswyr ac asiantiaid, nid oes ganddo awdurdod cyfreithiol i ymchwilio i droseddau na rhoi cosbau ar eu cyfer o dan y Ddeddf.
Mae canllawiau'r Comisiwn i ymgeiswyr ac asiantiaid yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wariant a rhoddion i ymgeiswyr.
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Cofrestru
Unigolion a sefydliadau yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr.
Mae dau fath o ymgyrch gan rai nad ydynt yn bleidiau ac mae rheolau penodol yn gymwys i'w gwariant o fewn y cyfnod a reoleiddir, sef:
- Ymgyrchoedd lleol: ymgyrchoedd gan rai nad ydynt yn bleidiau dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholaeth benodol. Er enghraifft, os yw cynghrair lleol yn ymgyrchu dros ymgeisydd yn ei etholaeth
- Ymgyrchoedd cyffredinol: ymgyrchoedd gan rai nad ydynt yn bleidiau dros neu yn erbyn plaid wleidyddol, neu gategorïau penodol ymgeisydd, gan gynnwys ymgyrchoedd ar bolisïau neu faterion sy'n gysylltiedig iawn â phlaid benodol neu gategori o ymgeiswyr. Er enghraifft, grŵp ymgyrchu sy'n seiliedig ar faterion penodol yn ymgyrchu dros blaid wleidyddol ym mhob rhan o'r DU
Caiff ymgyrchoedd lleol eu rheoleiddio gan yr heddlu. Caiff ymgyrchoedd cyffredinol eu rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi canllaw i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i hyrwyddo eu dealltwriaeth o'r rheolau a'u helpu i ymgyrchu'n hyderus drwy gydol y flwyddyn.
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru â'r Comisiwn os ydynt yn bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Gellir rheoleiddio gwariant ar y gweithgareddau canlynol:
- deunydd etholiad
- canfasio a gwaith ymchwil i'r farchnad
- ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus
- cynadleddau i'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau
- cludiant mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i'ch ymgyrch
Ceir rhagor o ganllawiau ar y profion sy'n penderfynu a yw gwariant yn cael ei reoleiddio ar wefan y Comisiwn.
Gwariant
Y terfyn gwariant ar gyfer ymgyrchoedd lleol gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yw £700 fesul etholaeth. Mae'r terfyn hwn yn gymwys o'r dyddiad y caiff y Senedd ei diddymu.
Rhaid i ymgyrchwyr sy'n gwario mwy na swm penodol ar ymgyrchoedd cyffredinol gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol.
Dim ond ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau all wario dros £10,000 ledled y DU. Wrth gofrestru, gall ymgeisydd ddatgan na fydd yn gwario dros y trothwyon adrodd isod.
Y terfynau gwariant ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau yw:
Rhan o'r DU | Trothwy adrodd | Terfyn gwariant |
---|---|---|
Lloegr | £20,000 | £586,548 |
Yr Alban | £10,000 | £81,571 |
Cymru | £10,000 | £54,566 |
Gogledd Iwerddon | £10,000 | £39,443 |
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol, yr uchafswm y gall ymgyrchydd cofrestredig neu anghofrestredig nad yw'n blaid ei wario ar weithgarwch ymgyrchu cyffredinol a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol yw £17,553.
Adrodd
Dim ond gan ffynhonnell a ganiateir y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau dderbyn rhoddion dros £500 a roddir ar gyfer gweithgarwch a reoleiddir. Rhaid iddynt adrodd am unrhyw roddion sy'n fwy na chyfanswm o £7,500 i'r Comisiwn Etholiadol. Adroddir am y rhoddion hyn a'r gwariant yr aed iddo ar ôl y bleidlais.
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd ar wariant a rhoddion os ydynt yn bwriadu gwario mwy nag £20,000 yn Lloegr neu £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Pan fyddant yn cofrestru â'r Comisiwn, gall ymgyrchwyr ddatgan na fyddant yn gwario mwy na'r trothwyon adrodd.
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau adrodd i'r Comisiwn Etholiadol am roddion dros werth penodol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn y dyddiad pleidleisio. Gelwir hyn yn ‘adrodd cyn y bleidlais’.
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau sy'n gwario dros y trothwy adrodd gyflwyno adroddiadau ar roddion sy'n nodi'r rhoddion y maent wedi'u derbyn dros £7,500. Dechreuodd y cyfnod adrodd ar 17 Rhagfyr 2023 (neu ar y dyddiad cofrestru, os yn ddiweddarach). Bydd angen adrodd bob chwarter gan ddechrau o'r dyddiad hwnnw. Pan fydd y Senedd yn cael ei diddymu, bydd yr adroddiad chwarterol olaf yn dod i ben, ac mae'n rhaid i ymgyrchwyr gyflwyno adroddiadau wythnosol o'r dyddiad y diddymwyd y Senedd hyd nes y diwrnod pleidleisio. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi'r rhain yn wythnosol yn ystod yr ymgyrch.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau.
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau sydd wedi gwario £250,000 neu lai gyflwyno eu ffurflen i'r Comisiwn Etholiadol o fewn tri mis i'r etholiad. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd am wariant dros £250,000 yw chwe mis ar ôl yr etholiad.
Ymgyrchu yn yr etholiad
Fel sy'n wir am bob etholiad, mae'n anghyfreithlon gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd er mwyn dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Mae rheolau am ddifenwi hefyd yn gymwys i ddeunyddiau etholiad.
Gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o'r drosedd etholiadol benodol o wneud datganiad ffug. Mater i'r llysoedd sifil yw difenwi.
Fel sy'n wir am bob etholiad, nid oes gan y Comisiwn Etholiadol unrhyw rôl reoleiddiol mewn perthynas â chynnwys deunydd ymgyrchu na'r hyn y mae ymgeiswyr yn ei ddweud am ei gilydd.
Rydym yn cydnabod bod dadl wleidyddol gadarn yn rhan o ddemocratiaeth iach ond gall pethau fynd yn rhy bell weithiau.
Mae'r Comisiwn wedi gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i lunio dogfennau canllaw i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, i'w helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng dadl wleidyddol ac ymddygiad anghyfreithlon.
- Canllaw byr yw Pan fydd pethau'n mynd yn rhy bell, sy'n rhoi cyngor cyffredinol
- Mae'r Canllaw ar y cyd i ymgeiswyr mewn etholiadau yn rhoi mwy o fanylion am natur troseddau posibl
- Canllawiau i ymgeiswyr mewn etholiadau yn yr Alban
Yn ôl y gyfraith, rhaid i ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnyddio 'argraffnodau' ar eu holl ddeunydd ymgyrchu argraffedig. Mae argraffnod yn cynnwys enw a chyfeiriad yr argraffydd a'r hyrwyddwr (y sawl a awdurdododd i'r deunydd gael ei argraffu). Rhaid iddo gael ei gynnwys ar bob deunydd argraffedig fel posteri, hysbyslenni a thaflenni. Rhaid i hyn ddigwydd fel y gall etholwyr fod yn glir ynghylch ffynhonnell y deunydd ymgyrchu. Mae'n drosedd peidio â chynnwys argraffnod ar ddeunydd etholiad argraffedig.
Mae argraffnodau yn ofynnol ar yr holl hysbysebion gwleidyddol digidol y talwyd amdanynt. Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr, pleidiau, ymgyrchwyr cofrestredig a rhai grwpiau eraill gynnwys argraffnod ar ddeunydd ymgyrchu digidol arall, os yw'n bodloni profion penodol. Mae'n rhaid i argraffnod digidol gynnwys enw a chyfeiriad yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran.
Pan fydd rhywun yn dod yn ymgeisydd, bydd ganddo'r hawl i gael copi, am ddim, o'r gofrestr etholiadol lawn a rhestrau o'r bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhestrau'r pleidleiswyr absennol) ar gyfer yr etholaeth y mae'n ymladd yr etholiad ynddi.
Dim ond i'w helpu i gwblhau eu ffurflen enwebu, i ymgyrchu ac i gadarnhau bod y rhoddion a gânt yn dod o ffynhonnell a ganiateir y gall ymgeiswyr ddefnyddio'r gofrestr etholiadol lawn.
Gallant. Mae gan ymgeiswyr yr hawl i anfon deunydd am ddim (drwy'r Post Brenhinol) unwaith at bleidleiswyr yn yr etholaeth y maent yn ymladd yr etholiad ynddi. Mae hyn yn cynnwys:
- un cyfathrebiad etholiadol heb gyfeiriad sydd hyd at 60 gram at bob cyfeiriad post, neu
- un cyfathrebiad etholiadol hyd at 60 gram at bob pleidleisiwr
Bydd ymgeiswyr yn cysylltu â'r Post Brenhinol yn uniongyrchol i wneud y trefniadau ar gyfer eu taflenni. Ni chwmpesir costau'r deunydd ei hun, dim ond y tâl postio.
Gall unrhyw un drefnu hustyngau, sef digwyddiadau sydd â'r nod o roi cyfle i'r cyhoedd glywed gan yr ymgeiswyr neu'r pleidiau sy'n sefyll etholiad yn eu hetholaeth.
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i'r sawl sy'n trefnu hustyng wahodd pob ymgeisydd neu blaid sy'n sefyll mewn etholaeth. Fodd bynnag, gellir rheoleiddio gwariant ar hustyngau yn dibynnu ar sut y cânt eu trefnu. Gall hyn ddigwydd pan fydd y trefnydd yn gwahodd neu'n allgáu ymgeiswyr neu bleidiau yn ddetholus.
Dylai'r rhai sy'n trefnu hustyngau ystyried sut y byddant yn sicrhau diogelwch y cynrychiolwyr sy'n mynychu'r digwyddiad, yn ogystal â'i hygyrchedd ar gyfer pleidleiswyr.
Mae gan y Comisiwn ganllawiau pellach ar drefnu hustyngau.
Darlledwyr teledu sy'n penderfynu sawl darllediad etholiadol y gall pleidiau gwleidyddol ei gael.
Pleidiau gwleidyddol sy'n talu am gynnwys darllediadau etholiadol gan bleidiau ac yn eu cynhyrchu, a rhaid iddynt ufuddhau i'r gyfraith o ran, er enghraifft, hawlfraint, difenwi, dirmyg, anweddustra ac annog atgasedd hiliol neu drais.
Rhaid iddynt gydymffurfio â Chod Darlledu Ofcom a Chanllawiau Golygyddol y BBC sy'n ymwneud â niwed a thramgwydd a thegwch a phreifatrwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Grŵp Cyswllt y Darlledwyr.
Nid yw adroddiadau newyddion, eitemau nodwedd nac erthyglau golygyddol yn ddarostyngedig i gyfraith etholiadol, ac nid ydynt yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn Etholiadol. Ofcom sy'n gyfrifol am reoleiddio deunydd teledu a radio, ac mae Sefydliad Annibynnol Safonau'r Wasg yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o bapurau newydd a chylchgronau'r DU.
Mae dadleuon teledu, radio ac ar-lein rhwng arweinwyr pleidiau yn fater i'r darlledwyr a'r papurau newydd perthnasol. Nid oes gan y Comisiwn Etholiadol rôl reoleiddiol mewn perthynas â dadleuon rhwng arweinwyr pleidiau na darllediadau etholiadol gan bleidiau.
Pleidleiswyr
Cofrestru i bleidleisio
Gall person gofrestru i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol os yw:
- yn 18 oed neu drosodd ar y diwrnod pleidleisio; a
- yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw yn y DU; neu
- yn ddinesydd Gwyddelig, neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, sy'n byw yn y DU
Gall dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn flaenorol, neu sydd wedi byw yn y DU gofrestru i bleidleisio fel etholwyr tramor a phleidleisio. Gall pleidleiswyr yn y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu dramor gofrestru a phleidleisio hefyd.
Gall pleidleiswyr gofrestru i bleidleisio ar-lein neu drwy gwblhau ffurflen gofrestru. Gallant gysylltu â swyddfa cofrestru etholiadol eu hawdurdod lleol i ofyn am ffurflenni neu gallant eu lawrlwytho o wefan Llywodraeth y DU.
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt swyddfeydd cofrestru etholiadol awdurdodau lleol gan ddefnyddio'r adnodd chwilio gan ddefnyddio cod post ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Gallwch fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad gwahanol, ond dim ond mewn un lle y gallwch bleidleisio mewn etholiad cyffredinol. Mae'n drosedd pleidleisio ddwywaith mewn etholiad cyffredinol.
Gall aelodau o'r lluoedd arfog a'u gwŷr neu wragedd neu bartneriaid sifil, sy'n gwasanaethu yn y DU neu dramor, gofrestru naill ai yn eu cyfeiriad cartref neu yn eu barics yn y ffordd arferol, neu fel 'pleidleisiwr yn y lluoedd arfog'. Bydd pleidleiswyr yn y lluoedd arfog yn cwblhau datganiad y lluoedd arfog er mwyn sicrhau y gallant gofrestru pan fyddant oddi cartref ar ddyletswydd.
Gall carcharorion remand (y rhai nad ydynt wedi cael eu collfarnu na'u dedfrydu) bleidleisio. Ni all carcharorion euog sydd wedi cael eu cadw yn y ddalfa oherwydd eu dedfryd bleidleisio mewn etholiad cyffredinol.
Mewn rhai achosion prin, gall carcharorion a ryddhawyd ar drwydded dros dro fodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru i bleidleisio.
Y broses bleidleisio
Bydd pob gorsaf bleidleisio yn agor am 7am ac yn cau am 10pm.
Bydd unrhyw bleidleisiwr sy'n cyrraedd ei orsaf bleidleisio ac sydd mewn ciw yn aros i bleidleisio am 10pm, yn gallu pleidleisio.
Defnyddir system etholiadol 'y cyntaf i'r felin' mewn etholiad cyffredinol.
Dylai pleidleiswyr roi un 'X' ar eu papur pleidleisio yn y blwch wrth ymyl yr ymgeisydd y maent am iddo gynrychioli eu hetholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.
Yn bersonol
Gall pleidleiswyr cofrestredig fynd i'w gorsaf bleidleisio leol rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio i fwrw eu pleidlais.
Cyn y diwrnod pleidleisio, anfonir cerdyn pleidleisio at bleidleiswyr sy'n cynnwys manylion am leoliad eu gorsaf bleidleisio. Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar y cerdyn hwn y gall pleidleiswyr bleidleisio.
Mae angen i bleidleiswyr dienw ddod â'u cerdyn pleidleisio i'r orsaf bleidleisio, yn ogystal â'u Dogfen Etholwr Dienw. Nid yw'n ofynnol i bob pleidleisiwr arall wneud hyn, ond gall gyflymu'r broses.
Pan fydd pleidleisiwr yn cyrraedd gorsaf bleidleisio, bydd aelod o'r staff yn:
• Gofyn am ei enw a'i gyfeiriad fel y gellir dod o hyd iddo ar y gofrestr etholiadol
• Gofyn am ei ID ffotograffig, a gwirio a yw'n dderbyniol
• Os caiff ei ID ei dderbyn, bydd yn rhoi ei bapur pleidleisio iddo a'i gyfarwyddo i'w gwblhau mewn bwth pleidleisio, yn ôl yr arfer
Drwy'r post
Os na fydd pleidleiswyr am fynd i orsaf bleidleisio, neu os na fyddant yn gallu gwneud hynny, gallant wneud cais am bleidlais bost drwy gwblhau ffurflen neu wneud cais ar-lein. Gall pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol, cyfnod penodol o amser, neu ar gyfer pob etholiad y maent yn gymwys i bleidleisio ynddo. Gellir caniatáu pleidleisiau post ar gyfer etholiadau Senedd y DU am dair blynedd ar y mwyaf cyn y mae'n rhaid eu hadnewyddu.
Mae'n ofynnol i geisiadau am bleidlais bost gynnwys rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd yn ogystal â'i ddyddiad geni a'i lofnod. Defnyddir y rhain i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd.
Caiff papurau pleidleisio drwy'r post eu hanfon yn uniongyrchol at bleidleiswyr tua wythnos cyn y diwrnod pleidleisio. Rhaid i bleidleiswyr hefyd gofio cwblhau'r datganiad pleidleisio drwy'r post gyda'u llofnod a'u dyddiad geni, neu ni chaiff eu pleidlais ei chyfrif. Dylai pleidleiswyr gwblhau eu papurau pleidleisio a'u dychwelyd ar unwaith, er mwyn iddynt gyrraedd cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
Os na fydd pleidleiswyr yn caniatáu digon o amser i bostio eu pleidlais, gallant fynd â hi i orsaf bleidleisio yn eu hetholaeth rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio. Ceir cyfyngiadau ar bwy all ymdrin â dogfennau pleidleisio drwy'r post. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidlais bost mewn gorsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau perthnasol gwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post. Ni chaniateir i bleidleiswyr gyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post, yn ogystal â'u pleidlais bost eu hunain.
Gall pleidleiswyr na allant lofnodi eu henw neu na allant lofnodi mewn modd cyson wneud cais i'r awdurdod lleol i bleidleisio drwy'r post heb roi llofnod. Fel arfer, gelwir hwn yn gais i hepgor llofnod ar bleidlais bost.
Drwy ddirprwy
Gall pleidleiswyr na allant bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, neu nad ydynt am wneud hynny, wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu eu bod yn gofyn i rywun y maent yn ymddiried ynddo bleidleisio ar eu rhan. Gall pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol, cyfnod penodol o amser, neu ar gyfer pob etholiad.
Bydd angen iddynt gwblhau a llofnodi ffurflen gais pleidleisio drwy ddirprwy a'i dychwelyd i'w swyddfa cofrestru etholiadol leol erbyn y dyddiad cau. Fel arall, gallant wneud cais ar-lein ar gyfer rhai mathau o bleidlais drwy ddirprwy. Bydd angen i'r person a fydd yn pleidleisio ar eu rhan (eu dirprwy) ddangos math o ID a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio cyn y gall bleidleisio.
Mae'r newidiadau yn y Ddeddf Etholiadau yn golygu y gall pleidleiswyr weithredu fel dirprwy ar gyfer pedwar person yn unig, gyda dim ond dau ohonynt yn bobl sy'n byw yn y DU.
Mae'r Comisiwn yn darparu canllawiau i staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn eu helpu i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bawb.
Mae'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau yn galluogi pleidleiswyr anabl i ddewis unrhyw un dros 18 oed i ddod â nhw i'r orsaf bleidleisio, er mwyn eu helpu i bleidleisio. Mae'r Ddeddf yn newid y cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio hefyd.
Gwnaethom ymgynghori ag elusennau a gweinyddwyr etholiadau, cyn diweddaru ein canllawiau hygyrchedd i weinyddwyr, er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl ddefnyddio'r gwasanaeth y mae ganddynt hawl i'w ddefnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio. Nod ein canllawiau yw helpu Swyddogion Canlyniadau i ddeall a nodi'r rhwystrau i bleidleisio y mae pleidleiswyr anabl yn eu hwynebu. Maent yn nodi'r cyfarpar a ddylai fod ar gael yn yr orsaf bleidleisio fel gofyniad sylfaenol, a pha gyfarpar neu gymorth arall a all fod yn ddefnyddiol hefyd. Dylai'r rhain gynnwys mesurau fel dyfais bleidleisio gyffyrddadwy, bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn, chwyddwydrau a darnau gafael ar gyfer pensiliau. Dylai Swyddogion Canlyniadau ystyried y canllawiau hyn.
Nid oes dim yn y gyfraith sy'n nodi p'un a ddylid defnyddio peniau neu bensiliau i farcio papur pleidleisio. Defnyddiwyd pensiliau i farcio papurau pleidleisio am resymau ymarferol: er enghraifft, gyda pheniau inc mae siawns y gall yr inc sychu neu ollwng. Hefyd, gall inc achosi i'r marc a wnaed gan y pleidleisiwr gael ei drosglwyddo pan gaiff y papur pleidleisio ei blygu, a allai arwain at wrthod y papur pleidleisio. Gall pleidleisiwr ddefnyddio pen i farcio ei bapur pleidleisio os bydd yn dymuno gwneud hynny.
ID Pleidleisiwr
Mae bellach yn ofynnol i bleidleiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ddod ag ID ffotograffig gyda nhw i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.
Mae math o ID am ddim, sef y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ar gael i'r rhai sydd heb fath arall o ID a dderbynnir. Gall unrhyw un sydd heb fath o ID a dderbynnir wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim ar-lein, neu drwy ofyn am ffurflen bapur o'u cyngor lleol.
Os bydd pleidleiswyr yn colli eu math presennol o ID, neu os caiff ei ddwyn neu ei ddifrodi a bod y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr wedi mynd heibio, gall pobl benodi dirprwy brys i bleidleisio ar eu rhan hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
Rhaid i bleidleiswyr sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio'n ddienw, ond sy'n dymuno pleidleisio yn bersonol, feddu ar Ddogfen Etholwr Dienw er mwyn gallu pleidleisio.
Ymysg y mathau o ID a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio mae pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; trwydded yrru y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; a rhai cardiau teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Mae'r rhestr lawn ar gael yma. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.
Gall y sawl nad oes ganddynt fathau a dderbynnir wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim.
Y cyfrif
Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) sy'n bennaf cyfrifol am gyfrif y pleidleisiau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Swyddogion Llywyddu yn cludo blychau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio i leoliad y cyfrif mewn modd diogel ac amserol; a bod y sawl a gaiff ei recriwtio i gyfrif y papurau pleidleisio wedi'i hyfforddi'n dda o ran sut y dylai gyflawni ei ddyletswyddau.
Dylai'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau a fwriwyd ar y papurau pleidleisio cyn gynted ag y bo'n ymarferol o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio. Bydd y cyfnod pleidleisio'n dod i ben am 10pm.
Bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gallu rhoi amcan o amseroedd ar gyfer y broses gyfrif.
Yn ôl y gyfraith, mae gan y bobl ganlynol yr hawl i fod yn bresennol yn ystod y broses gyfrif:
- y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'i staff
- ymgeiswyr ac un gwestai
- asiantiaid etholiad (neu is-asiantiaid ar eu rhan)
- asiantiaid cyfrif
- Cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol
- arsylwyr achrededig
- unrhyw berson arall sydd wedi cael caniatâd gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i fod yn bresennol
Rhaid i aelodau o'r cyfryngau a ffotograffwyr sydd am fod yn bresennol yn ystod y broses gyfrif gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) perthnasol i ofyn am ganiatâd i fod yn bresennol yn ystod y broses gyfrif ac adeg datgan y canlyniadau.
Mae pedwar cam i'r broses gyfrif:
- Bydd blychau pleidleisio drwy'r post a blychau pleidleisio o'r gorsafoedd pleidleisio yn cyrraedd lleoliad y cyfrif.
- Bydd staff yn ymgymryd â phroses ddilysu ac yn sicrhau bod nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a'r papurau pleidleisio yn cyfateb i'r nifer a gofnodwyd gan y swyddog canlyniadau perthnasol, a gan y swyddog llywyddu yn yr orsaf bleidleisio.
- Caiff y pleidleisiau eu cyfrif a bydd y swyddog canlyniadau yn datgan y canlyniadau.
- Bydd y swyddog canlyniadau gweithredol yn cyhoeddi enw'r ymgeisydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau wedi'i iawn ethol.
Unwaith y bydd cam dilysu'r cyfrif wedi'i gwblhau, caiff y papurau pleidleisio eu rhannu yn ôl ymgeisydd a chaiff unrhyw bapurau pleidleisio amheus eu nodi. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwneud dyfarniad ynghylch unrhyw bapurau pleidleisio amheus ym mhresenoldeb yr ymgeiswyr a'u hasiantiaid ac mae'r Comisiwn wedi rhoi canllawiau i'w helpu i wneud hyn. Caiff unrhyw bapurau pleidleisio yr ystyrir eu bod yn rhai ‘da’ yn y broses hon eu dychwelyd a'u dyrannu i'r ymgeisydd perthnasol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi sawl papur pleidleisio a wrthodwyd wrth gyhoeddi canlyniadau'r etholiad.
Mae'n debygol y cynhelir sawl sesiwn agor pleidleisiau post cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal â'r diwrnod pleidleisio ei hun.
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) roi rhybudd o 48 awr o leiaf gan nodi pryd a ble y cynhelir y sesiynau. Ym mhob sesiwn agor, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn penderfynu a yw'r dyddiad geni a'r llofnod a ddarparwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r llofnod a'r dyddiad geni a ddarparwyd yn flaenorol ac sydd yn eu cofnodion. Os na fydd yn fodlon eu bod yn cyfateb, caiff y bleidlais ei gwrthod.
Gall ymgeiswyr arsylwi ar y broses neu benodi asiant pleidleisiau post i wneud hynny. Caiff papurau pleidleisio eu trin â'u hwynebau i lawr mewn sesiynau agor amlenni pleidleisiau post. Ni ddylai neb sy'n mynychu sesiwn agor geisio edrych ar farciau na rhifau adnabod ar bapurau pleidleisio, datgelu sut y cafodd papur pleidleisio penodol ei farcio na throsglwyddo gwybodaeth o'r fath a ddeilliodd o'r sesiwn.
Caiff yr holl bapurau pleidleisio dilys eu rhoi mewn blychau pleidleisio a'u storio'n ddiogel cyn eu dosbarthu i leoliad y cyfrif er mwyn eu cyfrif ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio.
Gall rhywun herio canlyniad etholiad drwy gyhoeddi deiseb etholiadol. Mae'n gam cyfreithiol a chaiff ei ddyfarnu gan farnwr mewn llys.
Fel arfer, rhaid cyflwyno deiseb mewn etholiad cyffredinol o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd yr etholiad. Gellir caniatáu rhagor o amser o dan amgylchiadau penodol.
Rhaid i aelodau o'r cyfryngau a ffotograffwyr sydd am fod yn bresennol mewn digwyddiadau cyfrif a ffilmio ynddynt ofyn am ganiatâd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) perthnasol ymlaen llaw.
Twyll Etholiadol
Tramgwyddau pleidleisio
Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn nodi nifer o droseddau sy'n ymwneud â thwyll etholiadol. Byddai'r heddlu perthnasol ar gyfer yr ardal y cynhelir yr etholiad ynddi yn ymchwilio i unrhyw honiadau fod trosedd wedi cael ei chyflawni.
Mae gan bob heddlu bwynt cyswllt unigol (a elwir yn SPOC) i arwain ar droseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau, a fydd yn rhoi cyngor i swyddogion yr heddlu lleol. Gall pobl hefyd ddewis cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Dylai unrhyw un, gan gynnwys ymgeiswyr, gwleidyddion ac aelodau o'r cyhoedd, sydd â thystiolaeth bod twyll etholiadol yn digwydd, roi gwybod i'r heddlu ar unwaith, gan ddefnyddio'r rhif 101 ar gyfer adegau pan nad oes argyfwng, oni fydd y drosedd wrthi'n cael ei chyflawni.
Rhaid i bleidleiswyr post ddarparu eu llofnod a'u dyddiad geni pan fyddant yn gwneud cais am bleidlais bost. Wrth fwrw eu pleidlais bost, gofynnir iddynt eto am eu llofnod a'u dyddiad geni. Caiff y ddau gofnod eu cymharu ac os na fydd y Swyddog Canlyniadau yn fodlon eu bod yn cyfateb, ni chaiff y papur pleidleisio ei gyfrif.
Ceir cyfyngiadau ar bwy all ymdrin â dogfennau pleidleisio drwy'r post hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys eu dychwelyd i orsaf bleidleisio neu i'r swyddog canlyniadau perthnasol. O fis Mai, ni chaniateir i bleidleiswyr gyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post, yn ogystal â'u pleidlais bost eu hunain. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidlais bost mewn gorsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau perthnasol gwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post.
Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob ardal sy'n bennaf cyfrifol am wneud hyn. Maent yn gweithio'n agos gyda'r heddlu lleol.
Cyhoeddwyd canllawiau ar blismona etholiadau i gefnogi swyddogion yr heddlu a phwyntiau cyswllt unigol wrth iddynt roi cynlluniau ar waith i atal a chanfod twyll etholiadol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r canllawiau hyn, sy'n adeiladu ar waith blaenorol gan y Comisiwn Etholiadol a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, bellach yn rhan o Arfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Rolau a chyfrifoldebau yn yr etholiadau
Mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, swydd seremonïol yw swydd y Swyddog Canlyniadau ar y cyfan, sy'n Uchel Siryf neu'n Faer yr awdurdod lleol.
Dim ond y Swyddog Canlyniadau fydd yn derbyn y gwrit (er y gall ddirprwyo'r swyddogaeth hon). Y gwrit yw'r gorchymyn i gynnal etholiad mewn etholaeth. Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd ddewis cyhoeddi'r canlyniad ar ddiwedd y broses gyfrif a dychwelyd y gwrit.
Y Swyddog Canlyniadau Gweithredol, sef uwch-swyddog yn yr awdurdod lleol fel arfer, sy'n gyfrifol am weinyddu'r etholiad, gan gynnwys cynnal y broses gyfrif.
Yn yr Alban, mae'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiad cyffredinol yr un person â'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau cyngor lleol. Mae'n gyfrifol am bob agwedd ar weinyddu'r etholiad. Un o uwch-swyddogion y cyngor lleol ydyw fel arfer.
Drwy'r Llawlyfr hwn, defnyddir Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Gweithredol yng Nghymru a Lloegr a'r Swyddog Canlyniadau yn yr Alban.
Penodir Swyddogion Llywyddu gan Swyddogion Canlyniadau lleol i fod yn gyfrifol am orsafoedd pleidleisio. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys trefnu cynllun yr orsaf bleidleisio, goruchwylio clercod pleidleisio, rhoi papurau pleidleisio, helpu pleidleiswyr, rhoi cyfrif am bob papur pleidleisio a sicrhau y caiff blychau pleidleisio eu cludo'n ddiogel i leoliad y cyfrif.
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb. Ein rôl yn yr etholiadau hyn yw:
- llunio canllawiau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- pennu safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol, yn eu monitro ac yn cyflwyno adroddiadau arnynt
- llunio canllawiau i ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad a'u hasiantiaid
- llunio canllawiau ar gyfer pleidiau sy'n ymgyrchu yn yr etholiad
- llunio canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu yn yr etholiad
- cofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r etholiadau a sut i gymryd rhan ynddynt
- rhoi gwybod am y drefn cynnal yr etholiad
- cyhoeddi manylion ynghylch ble y mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu harian a sut y maent yn ei wario