Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Beth yw gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir?
Mae'r cyfreithiau ynglŷn ag ymgyrchu nad yw'n ymgyrchu gan blaid yn gymwys i wariant ar yr hyn a elwir yn ‘weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir’ yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Mae cyfraith etholiadol yn nodi'r mathau o wariant a reoleiddir ac na reoleiddir ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Caiff y treuliau hyn eu galw'n ‘wariant a reolir’ o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Controlled expenditure
Gwariant a reolir yw unrhyw wariant sy’n cael ei achosi mewn perthynas â gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Mae Atodlen 8A o Ddeddf 2000 yn nodi’r rhestr o dreuliau cymwys sy’n dod o fewn y drefn reoleiddio.
Gweithgareddau a all gael eu rheoleiddio
Gweithgareddau a all gael eu rheoleiddio
Gweithgareddau a all gael eu rheoleiddio
Mae Deddf 2000 yn rhestru’n benodol y treuliau a ganlyn fel rhai sy’n dod o fewn y drefn reoleiddio:
- cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu i unrhyw adran o’r cyhoedd (ym mha ffurf bynnag a thrwy ba fodd bynnag)
- canfasio neu ymchwil farchnad yn gofyn am farn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
- cynadleddau i’r wasg, neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau, wedi’u trefnu gan yr ymgyrchydd di-blaid neu ar ei ran
- cludo pobl (drwy unrhyw fodd) i unrhyw le neu leoedd gyda golwg ar sicrhau cyhoeddusrwydd
- treuliau mewn perthynas â chludo pobl o’r fath gan gynnwys costau llogi math penodol o gludiant
- ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill, heblaw:
- cynadleddau blynyddol yr ymgyrchydd di-blaid
- unrhyw orymdaith gyhoeddus neu gyfarfod protest, o fewn ystyr Deddf Gorymdeithiau Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 1998, y rhoddir hysbysiad mewn perthynas â nhw yn unol ag adran 6 neu 7 o’r Ddeddf honno (hysbysiad ymlaen llaw o orymdeithiau cyhoeddus neu gyfarfodydd protest perthynol)
Mae treuliau mewn perthynas â digwyddiadau o’r fath yn cynnwys costau a achosir mewn cysylltiad â phresenoldeb pobl mewn digwyddiadau o’r fath, llogi safleoedd at ddibenion digwyddiadau o’r fath neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt. Ond nid yw treuliau mewn perthynas â digwyddiadau o’r fath yn cynnwys costau a achosir wrth ddarparu ar gyfer diogelwch pobl neu eiddo.
Activities that may be regulated
Er mwyn asesu a gaiff gweithgaredd ei reoleiddio fel traul cymwys, byddwn yn ystyried dau ffactor:
• y ‘prawf diben’
• p'un a yw'r gweithgaredd ‘ar gael i'r cyhoedd’
Dim ond bodloni'r prawf diben y bydd angen i rai gweithgareddau ei wneud er mwyn cael eu rheoleiddio, tra bydd gweithgareddau eraill ond yn cael eu rheoleiddio os ydynt ar gael i'r cyhoedd yn ogystal â bodloni'r prawf diben.
Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y prawf diben a gweithgareddau sydd ar gael i'r cyhoedd.
Yr egwyddor asesu gonest
Ym mhob achos dylech wneud asesiad gonest a rhesymol, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.