Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd gwariant ar unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd os bydd y gweithgaredd yn hyrwyddo'r ymgeisydd:

  • hysbysebion o unrhyw fath1  Er enghraifft, posteri, hysbysebion mewn papurau newydd, gwefannau neu fideos
  • deunydd a anfonir at bleidleiswyr yn ddigymell2  Er enghraifft, llythyrau, taflenni neu negeseuon e-bost a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
  • costau cludiant3  Er enghraifft, ceir wedi'u llogi neu drafnidiaeth gyhoeddus i'ch ymgyrchwyr
  • cyfarfodydd cyhoeddus4  Er enghraifft, ad-dalu treuliau'r sawl sy'n bresennol, llogi safleoedd a thalu am nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer cyfarfod cyhoeddus
  • costau staff5  Er enghraifft, cyflog asiant, neu staff wedi'u secondio gan eu cyflogwyr i chi. Nid oes angen i chi gynnwys amser a dreulir ar eich ymgyrch gan wirfoddolwyr
  • swyddfeydd. 6  Er enghraifft, swyddfa'ch ymgyrch
  • costau gweinyddol7  Er enghraifft, biliau ffôn, deunydd ysgrifennu, llungopïau a defnyddio cronfeydd data

Mae hyn yn cynnwys:

  • yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych yn llunio taflenni neu hysbysebion, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu
  • eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn y cyfnod a reoleiddir a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir
  • eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwariant tybiannol.

Rhaid rhoi gwybod am y gwariant hwn ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad. Rhoddir mwy o fanylion am bob categori ar y tudalennau canlynol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023