Canllawiau newydd yn egluro newidiadau yn etholiad y Senedd i bleidleiswyr Cymru
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi llyfryn i gefnogi pleidleiswyr yng Nghymru i ddeall newidiadau i'r Senedd a'i system bleidleisio. Mae'r Canllawiau ar gyfer etholiad y Senedd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru, sut i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, yr etholaethau newydd, sut i lenwi'r papur pleidleisio a sut mae'r system bleidleisio'n gweithio.