Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?
Mae methu â chyflwyno ffurflen gwariant neu ddatganiad erbyn y dyddiad cau heb esgus awdurdodedig yn drosedd.1
Mae gan y Comisiwn Etholiadol gylch gwaith cyfreithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau ynghylch gwariant a rhoddion ymgeiswyr, ond nid oes ganddo bwerau cosbi mewn perthynas â thorri'r rheolau. Os amheuir bod ymgeisydd yn torri'r rheolau, dylid cyfeirio'r mater at yr heddlu.
Os na chaiff y ffurflen na'r datganiad ynghylch treuliau etholiad ymgeisydd eu cyflwyno cyn i'r amser a ganiateir at y diben hwnnw ddod i ben, bydd yr ymgeisydd, mewn perthynas â'r etholiad hwnnw, yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu fod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.2