Gall y canlynol wneud cais i bleidleisio drwy'r post mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu drwy gyflwyno cais i'w Swyddog Cofrestru Etholiadol:
Person 18 oed neu drosodd sydd wedi'i gofrestru i bleidleisio
Person 18 oed neu drosodd sydd wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio
Person sydd wedi'i benodi i bleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall
Rhaid i'r cais ddod i law'r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar yr unfed diwrnod gwaith ar ddeg cyn yr etholiad.i
Nid oes gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol unrhyw ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau am ba reswm bynnag.
i. Paragraffau 16(3) a (4), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote i