Caiff pecynnau pleidleisio drwy'r post eu hanfon at etholwyr o tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd etholwyr a gofrestrodd yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy'r post pan fydd eu henwau wedi'u hychwanegu at y fersiwn derfynol o'r gofrestr ar y pumed diwrnod gwaith. Bydd etholwyr a wnaeth gais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yn derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy'r post pan fydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch eu cais.
Bydd etholwyr wedyn yn marcio eu papur pleidleisio, yn cwblhau eu datganiad pleidleisio drwy'r post drwy roi eu llofnod a'u dyddiad geni, ac yn dychwelyd eu pleidlais bost at y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn i’r gorsafoedd pleidleisio gau (h.y. 10pm ar y diwrnod pleidleisio).
Nid oes gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad nac asiantiaid pleidleisio drwy'r post yr hawl i fod yn bresennol pan ddosberthir pleidleisiau post.