Pryd y caiff pleidleisiau post eu hagor a sut y byddwch yn gwybod pryd mae sesiwn agor yn cael ei chynnal?
Mae'n debygol y cynhelir sawl sesiwn agor cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal â'r diwrnod pleidleisio ei hun.
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol wneud y canlynol:
rhoi rhybudd o 48 awr o leiaf i ymgeiswyr yn nodi pryd a ble y cynhelir y sesiynau.1
nodi sawl asiant pleidleisio drwy'r post a all fod yn bresennol ym mhob sesiwn.
Bydd sesiwn agor derfynol ar ôl i'r bleidlais gau er mwyn agor unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir â llaw i orsafoedd pleidleisio. Gellir cynnal y sesiwn hon yn y lleoliad cyfrif neu mewn lleoliad arall. Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn eich hysbysu am y lleoliad ar gyfer yr achlysur agor amlenni terfynol.