Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Agor pleidleisiau post

Pwy all fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post

Mae hawl gan y bobl ganlynol i fod yn bresennol ar adeg agor pleidleisiau post1 :

  • Chi
  • eich asiant etholiad, is-asiant neu berson a benodwyd gennych i fod yn bresennol yn ei le2
  • asiantiaid a benodwyd gennych i fynd i sesiynau agor amlenni ar eich rhan3 . Ceir manylion am sut i benodi'r asiantiaid hyn yn Penodi eich asiant etholiad 


Dyletswydd i gynnal diogelwch yn ystod sesiynau agor amlenni pleidleisiau post

Caiff papurau pleidleisio eu cadw â'u hwynebau i lawr drwy gydol sesiwn agor amlenni pleidleisiau post4 . Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn sesiwn agor amlenni ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd ac ni ddylai wneud y canlynol:

  • cael
  • ceisio cael
  • cyfathrebu â pherson arall ar unrhyw adeg 
    • unrhyw wybodaeth am y rhif neu'r marc adnabod unigryw arall ar gefn papur pleidleisio5   
    • unrhyw wybodaeth am y marc swyddogol ar bapur pleidleisio drwy'r post cyn diwedd y cyfnod pleidleisio6  
  • datgelu sut y cafodd papur pleidleisio penodol ei farcio na throsglwyddo gwybodaeth o'r fath a ddeilliodd o'r sesiwn7

Felly, mae'n dilyn na chaniateir cadw cyfrif o faint o bapurau pleidleisio sydd wedi cael eu marcio.

Gall rhywun a geir yn euog o dorri'r gofynion hyn wynebu dirwy anghyfyngedig, neu gall wynebu carchar am hyd at chwe mis. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ebrill 2024