Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Penodi asiantiaid pleidleisiau post
Cewch benodi asiantiaid i fod yn bresennol mewn achlysuron agor amlenni pleidleisiau post.
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i'r bobl a restrir isod, i weithredu fel asiant pleidleisiau post:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)1
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff2
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau3
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod4
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20126
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol. Mae gan is-asiantiaid hawl i fod yn bresennol ar adeg agor amlenni pleidleisiau post yn eu rhinwedd eu hunain.
Bydd pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn nodi uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisiau post y gallwch eu penodi. Caiff pob ymgeisydd benodi'r un nifer7
.
Rhaid i'r cais i benodi asiantiaid pleidleisiau post hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol gennych chi neu eich asiant.
Rhaid i'r cais gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir8
. Rhaid gwneud penodiad ar wahân ar gyfer pob cyfrif lleol, hyd yn oed os cynhelir pob cyfrif lleol mewn lleoliad canolog9
.Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflenni penodi asiantiaid pleidleisiau post y Comisiwn.
Mae angen i'r ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisiau post gael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post y maent am fod yn bresennol ynddo.10
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn i bob achlysur agor amlenni pleidleisiau post ddechrau.11
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.12
Rhoddir rhagor o wybodaeth am yr hyn y caiff asiantiaid ei wneud a'r hyn na chaiff asiantiaid ei wneud, a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiynau agor amlenni pleidleisiau post yn ein canllawiau ‘beth mae asiant pleidleisio drwy'r post yn ei wneud’ a ‘camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post’.
- 1. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Paragraff 33(1), Atodlen 2 a Pharagraff 31(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Paragraff 33(2), Atodlen 2 a Pharagraff 31(9), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Paragraff 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Paragraff 33(2), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Paragraff 44, Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Paragraff 33(5), Atodlen 2 a Pharagraff 31(8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12