Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Beth sy'n cyfrif fel rhodd?

Rhodd yw arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau a roddir:

  • tuag at eich gwariant fel ymgeisydd
  • heb godi tâl neu ar delerau anfasnachol 1

ac sy'n werth dros £50. 2  Nid ystyrir bod unrhyw beth sy'n £50 neu lai yn rhodd.

Mae'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn gymwys pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol. 3

Mae rhai enghreifftiau o roddion yn cynnwys:

  • rhodd arian neu fath arall o eiddo
  • talu anfoneb ar gyfer gwariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gennych chi
  • benthyciad nas rhoddwyd ar delerau masnachol
  • nawdd neu ddigwyddiad neu gyhoeddiad
  • defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o eiddo neu gyfleusterau, er enghraifft defnydd am ddim o swyddfa
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023