Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Gan bwy y gallwch dderbyn rhodd?

Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion. 1  Ffynhonnell a ganiateir yw:

  • unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, 2  gan gynnwys etholwyr tramor
  • plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr 3
  • cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 4
  • undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU 5
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU 6
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 7
  • cymdeithas gyfeillgar sydd wedi'i chofrestru yn y DU 8
  • cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU yn gyfan gwbl neu'n bennaf ac sydd â'i phrif swyddfa yn y DU 9

Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan fathau penodol o ymddiriedolaethau  a chan 10  gymynroddion.11  Mae'r rheolau ynglŷn â'r rhoddion hyn yn gymhleth, felly cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Er y gallwch, o dan gyfraith etholiadol, dderbyn yn gyfreithiol roddion gan elusennau sy'n un o'r ffynonellau a ganiateir uchod, ni chaniateir i elusennau wneud rhoddion gwleidyddol fel arfer o dan gyfraith elusennau. Dylech gadarnhau bod unrhyw elusen sy'n cynnig rhodd wedi cael cyngor gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol cyn ei derbyn.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024