Mae llawer o bleidiau gwleidyddol yn cynnal cronfeydd ymladd lleol i ymgeiswyr. Os yw'r gronfa wedi'i rheoli gan y blaid ac nid yr ymgeisydd, caiff rhoddion i'r gronfa eu trin fel rhoddion i'r blaid fel arfer ac nid oes angen i chi eu trin fel rhoddion i'r ymgeisydd, oni chaiff y rhoddion eu rhoi'n benodol tuag at ymgyrch eich etholiad.
Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod am roddion gan y blaid leol at ddiben talu am wariant eich ymgyrch.
Er enghraifft, mae cangen plaid yn casglu rhoddion i godi arian ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol yn yr ardal leol. Os bydd y blaid leol yn nodi'n glir y rhoddir y rhoddion hyn er mwyn talu am dreuliau etholiad yr ymgeisydd, neu os bydd rhoddwr yn nodi bod ei rodd at y diben hwn, yna dylid trin y rhodd fel rhodd i'r ymgeisydd.
Rhaid i unrhyw roddion a wneir ar eich rhan fod ar gael i chi eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys rhoddion a gedwir ar eich rhan gan eich plaid wleidyddol neu rywun arall.