Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cryptoasedau

Rhoddion crypto: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno gohiriad ar roddion ar ffurf asedau crypto. Y bwriad yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.

Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw. Byddai hefyd yn berthnasol i ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a’r Alban).

Byddai’r cynigion yn cynnwys taliadau crypto o £50 neu lai, nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhoddion o dan gyfraith etholiadol bresennol.

Unwaith bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd neu fforffedu unrhyw roddion crypto a dderbyniwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny.

Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Ceisio gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn ar gyfer unrhyw daliadau crypto o £50 neu lai, fel y gallwch ddychwelyd y rhoddion hyn
  • Sicrhau eich bod yn dal gafael ar asedau crypto digonol neu'r swm arian cyfwerth er mwyn dychwelyd y rhoddion hyn
  • Sicrhau bod eich darparwr crypto yn gallu cefnogi rhoddion a ddychwelir  

Mae gofyn eisoes i chi gadw cofnodion o roddion a wneir ar ffurf asedau crypto, fel y gellir eu hadrodd fel rhoddion anariannol.

Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae cryptoasedau yn werth sy’n cael ei gynrychioli’n ddigidol. Maent yn cael eu diogelu gan broses amgryptio, yn defnyddio technoleg cyfriflyfr dosbarthedig, ac maent yn gallu cael eu trosglwyddo, eu storio neu eu cyfnewid yn electronig. Mae technoleg cyfriflyfr dosbarthedig yn system ddigidol sy’n cofnodi manylion trafodiadau mewn sawl lle ar yr un pryd, yn hytrach na drwy storfa ddata ganolog - er enghraifft, “blockchain”. Rhai enghreifftiau o gryptoasedau yw cryptoarian, tocynnau anghyfnewidadwy a cheiniogau digyfnewid. Nid yw asedau crypto yn arian cyfreithlon yn y DU. Cânt eu trin yn y gyfraith fel eiddo, nid fel arian. Cewch ragor o wybodaeth am gryptoasedau gan Fanc Lloegr.

Mae defnydd cryptoasedau’n tyfu’n fwyfwy ac mae’r cyfreithiau a’r rheoliadau ar eu defnydd yn esblygu ar hyn o bryd. Fel ymgeisydd, efallai bod rhoddwyr posibl sydd â diddordeb mewn gwneud rhodd i chi mewn cryptoasedau i’ch helpu chi dalu am eich gwariant ar ymgyrch wedi cysylltu â chi. Os ydych chi’n penderfynu derbyn rhoddion mewn cryptoasedau, bydd angen i chi gael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut mae trafodiadau mewn cryptoasedau yn gweithio, fel y gallwch gyflawni eich cyfrifoldebau cyfreithiol.  

Nid yw rhoddion asedau crypto wedi’u gwahodd o dan gyfraith etholiadol. Fodd bynnag, oherwydd y ffordd maent yn gweithredu, maent yn cyflwyno heriau a risgiau penodol wrth fodloni gofynion cyfraith etholiadol o ran nodi rhodwyr a sicrhau eu bod yn rhai a ganiateir.

Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni yn gyntaf am gyngor os ydych chi’n ystyried derbyn rhoddion mewn cryptoasedau. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein ffordd o ymdrin â rhoddion mewn cryptoasedau, gan gynnwys trafod y gofynion cyfreithiol gyda phlatfformau crypto fel y gallwn ddeall eu gallu i alluogi ymgeiswyr i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol pe bai nhw’n derbyn rhoddion yn y ffurf hon. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr eraill yn y DU. Wrth i gyfundrefn reoleiddiol a’r farchnad ddatblygu, byddwn yn diweddaru ein cyfarwyddyd.

Adnabod y rhoddwr

Mae rhoddion a geir mewn cryptoasedau yn destun i’r un gofynion cyfreithiol â rhoddion eraill. Mae’r camau rheoli rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn berthnasol pan fyddwch yn ymgeisydd swyddogol.  

Mae’n rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch:  

  • adnabod a chadw cofnod manwl gywir o’r rhoddion yr ydych chi wedi’u derbyn  
  • gwirio’n iawn fod pob rhodd dros £50 o ffynhonnell a ganiateir
  • nodi a yw sawl rhodd wedi dod o’r un ffynhonnell
  • dychwelyd rhoddion pan fo angen, pan na allwch adnabod pwy yw’r rhoddwr, neu os yw’r rhoddwr yn un nas caniateir
  • adrodd am roddion yn eich ffurflen ymgeisydd, pan fo angen

Os ydych chi’n dymuno casglu rhoddion mewn cryptoasedau drwy blatfform cyllido torfol, cyn i chi greu tudalen cyllido torfol, dylech wirio y bydd y platfform yn gadael i chi weld yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr. Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wnaed yn ddienw, neu os nad ydych yn gallu nodi pwy yw'r rhoddwr. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran ar gyllido torfol.

Dylech fod yn ofalus iawn os oes unrhyw arwydd bod rhoddwyr yn defnyddio cymysgwyr (gwasanaethau sy’n cuddio ffynhonnell wirioneddol asedau crypto drwy gyfuno asedau o sawl ffynhonnell), neu’n defnyddio AI a systemau eraill i rannu rhoddion.  

Prisio cryptoasedau

Gwerth y cryptoased fydd ei werth marchnadol mewn GBP ar yr adeg y daw i’ch meddiant. Er enghraifft, efallai mai cyfradd gyfnewid y darparwr taliadau a ddefnyddiwyd i wneud y trafodiad fydd y gwerth, neu werth marchnadol cyfnewid mawr ar yr adeg honno.  

Os yw gwerth marchnadol GBP unrhyw gryptoased yr ydych chi’n ei gael yn fwy na £50, mae’n rhaid i chi ei gyfrif fel rhodd a gwirio a yw’r rhoddwr yn un a ganiateir cyn i chi ei dderbyn.1  Yn eich ffurflen gwariant a rhoddion mae’n rhaid i chi gofnodi rhoddion dros £50 yr ydych chi wedi eu derbyn a’u dychwelyd.

Yr un fath â rhoddion eraill, mae rhoddion o £50 neu lai y tu allan i gwmpas y gyfraith etholiadol ac nid oes angen i chi eu cofnodi nac adrodd amdanynt. Fodd bynnag, mae ceisio osgoi’r camau rheoli rhoddion yn drosedd.2  Rydym felly’n argymell eich bod chi’n craffu’r taliadau hyn yn drylwyr, o ystyried y risg o ddefnyddio taliadau i osgoi cyfyngiadau ar bethau’n sy’n cael eu caniatáu.

Enghraifft A

Mae rhoddwr yn gwneud rhodd i ymgeisydd mewn cryptoarian. Mae asiant etholiad yr ymgeisydd yn defnyddio cyfradd gyfnewid y darparwr taliadau a ddefnyddiwyd i wneud y trafodiad i ganfod gwerth marchnadol y cryptoarian mewn GBP. Ar adeg derbyn y rhodd, ei gwerth marchnadol mewn GBP yw £80.

Gan fod gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP yn fwy na £50, mae’n rhaid i’r asiant wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd.

Enghraifft B

Mae rhoddwr yn hysbysu ymgeisydd ei fod yn bwriadu gwneud rhodd iddo mewn cryptoasedau. Mae’n dweud wrth yr ymgeisydd y bydd gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP yn tua £40.

Wythnos yn ddiweddarach, mae’r rhoddwr yn gwneud rhodd i’r blaid mewn ceiniogau sefydlog ac mae gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP ar adeg ei derbyn yn £55. Gan fod gwerth marchnadol y rhodd mewn GBP yn fwy na £50, mae’n rhaid i’r asiant etholiad wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd.

Adrodd am roddion a geir mewn cryptoasedau

Yn unol â’r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan CThEF a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mae cryptoasedau’n cael eu hystyried yn eiddo, yn hytrach nag arian cyfred neu arian. Mae’n rhaid ymdrin â rhoddion a geir mewn cryptoasedau fel rhoddion anariannol. Mae hyn hefyd yn debygol o fod yn berthnasol i drefniadau lle mae’r darparwr taliadau wedi trosi rhodd crypto i arian cyn ei throsglwyddo i chi, weithiau’n cael ei alw’n ‘ffordd ymadael crypto’ (‘crypto off-ramp’).

Pan fyddwch yn adrodd am roddion anariannol, mae’n rhaid i chi roi manylion am natur a gwerth y rhodd.3  Mae’n rhaid i hyn gynnwys math a swm y cryptoased. Er enghraifft, gallech adrodd natur rhodd fel 0.2 Bitcoin. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Ebrill 2026