Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Sut rydych yn prisio rhodd?
Gwerth y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano. 1 Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £50 gan roddwr a ganiateir. 2
Os byddwch yn derbyn rhywbeth fel rhodd mewn da, am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, a'ch bod chi neu rywun arall yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch (a elwir hefyd yn wariant tybiannol), rhaid i chi hefyd ei gofnodi fel rhodd os bydd gwerth yr hyn a gawsoch yn fwy na £50. 3 Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. 4
Dylech ddarllen yr adran ar wariant tybiannol cyn darllen yr adran hon.
Yr egwyddor arweiniol
Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu cael.
Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.
Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar werth masnachol nwyddau neu wasanaethau cyfatebol rhesymol. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.
Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio.
Examples
Enghraifft A
Mae cwmni argraffu'n cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i chi ar bris cynhyrchu taflenni ar gyfer eich ymgyrch. Gwerth masnachol y taflenni yw £200. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd. Y pris a dalwch am y taflenni yw £100.
Mae'r argraffwr wedi gwneud rhodd o £100 i chi: £200 (gwerth y nwyddau) - £100 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £100.
Enghraifft B
Mae dylunydd gwefannau yn cynnig creu gwefan ar gyfer eich ymgyrch am ddim. Gwerth masnachol ei wasanaethau yw £250. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd.
Mae dylunydd y wefan wedi gwneud rhodd o £250 i chi: £250 (gwerth y gwasanaethau) - £0 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £250.
Valuing a donation by sponsorship
Prisio rhodd drwy nawdd
Os bydd rhywun yn noddi cyhoeddiad neu ddigwyddiad ar ran yr ymgeisydd, gwerth y rhodd yw'r swm llawn a dalwyd ganddo.
Ni ddylech ddidynnu unrhyw symiau ar gyfer unrhyw fudd y mae'n ei gael drwy'r nawdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar nawdd.
Prisio mathau eraill o roddion
Ceir rhagor o wybodaeth am brisio gofod swyddfa a staff wedi'u secondio yn Prisio gwariant tybiannol a Rhannu gwariant.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 5(2) a (4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 4(2) a pharagraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, paragraff 2(1)(e) a pharagraff 4(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2A, paragraff 2(1)(e) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4