Dylech gadw cofnodion o bob unigolyn neu sefydliad sy'n cael y gofrestr etholiadol, nid dim ond y rhai sy'n talu amdani.
Dylech sicrhau bod pob unigolyn/sefydliad sy'n derbyn y gofrestr, boed hynny pan gaiff ei chyhoeddi, drwy ei gwerthu, neu ar gais, yn ymwybodol o'r canlynol:
dylid ond defnyddio'r gofrestr at y diben(ion) a nodir yn y Rheoliadau sy'n caniatáu ei rhoi
pan fydd y diben y darparwyd y gofrestr ar ei gyfer wedi dod i ben, rhaid i'r gofrestr gael ei dinistrio'n ddiogel
deallir y gosb am gamddefnyddio'r gofrestr
Rydym wedi cynnwys y wybodaeth a awgrymir uchod yn y blaenlenni canlynol ar gyfer gwerthu'r gofrestr etholiadol a'i rhoi ar gais.