Ceisiadau am fynediad at ddata sy'n ymwneud ag atal troseddau
Mae deddfwriaeth diogelu data yn rhoi esemptiad i reolau prosesu data at ddibenion atal troseddau.1
Lle cewch gais am wybodaeth sydd gennych bydd angen i chi ystyried y canlynol felly:
y person neu’r sefydliad sy'n gwneud y cais,
diben y cais, a
y deddfiad a ddyfynnwyd yn gofyn am wybodaeth
Os ydych yn fodlon bod y cais at ddibenion:
atal neu ganfod trosedd, neu
ddal neu erlyn troseddwyr
yna dylech ddarparu'r data.
Rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ddarparu'r gofrestr lawn i'r cyngor â'i penododd.2
Caiff cyflogai neu gynghorydd yn y cyngor hwnnw ddatgelu neu ddefnyddio gwybodaeth yn y gofrestr lawn, lle bydd angen gwneud hynny er mwyn cyflawni un o swyddogaethau statudol y cyngor sy’n ymwneud â materion diogelwch, gorfodi'r gyfraith ac atal troseddau (neu yng Nghymru a Lloegr, unrhyw awdurdod lleol arall).
Os bydd cais yn ymwneud â chopi'r cyngor o'r gofrestr, dylech gyfeirio'r cais at Swyddog Monitro eich cyngor.
2. Rheoliad 107 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a Rheoliad 106 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 2