Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau eraill
Mae derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau o orsafoedd pleidleisio mewn ffordd gywir a threfnus yn elfen allweddol o broses ddilysu gywir. Bydd angen i chi benderfynu ar y trefniadau mwyaf effeithiol ar gyfer derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau eraill.
Bydd gwneud tybiaethau ynglŷn ag amseroedd cludo blychau pleidleisio yn eich helpu i sicrhau'r canlynol:
- y gall staff sy'n derbyn blychau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio eich hysbysu os bydd unrhyw flwch/blychau yn hwyr oherwydd gall hyn awgrymu bod problem i Swyddog Llywyddu unigol neu broblem ehangach sy'n effeithio ar nifer o Swyddogion Llywyddu
Bydd eich amseriadau amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau'r cam dilysu yn dibynnu ar unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu o ran pryd y mae'n rhaid dechrau dilysu papurau pleidleisio.
Dylech allu amcangyfrif pryd y disgwylir i bob blwch pleidleisio gyrraedd y lleoliad dilysu, gan gydnabod hefyd y gallai oedi ddigwydd o ganlyniad i giwiau posibl yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, neu ffactorau eraill megis tywydd garw ac ati. Bydd eich gwaith yn dadansoddi etholiadau blaenorol yn cynnig gwybodaeth werthfawr i helpu ac mae llawer o wefannau ac apiau hefyd a fydd yn cyfrifo'r amser a gymerir i deithio rhwng gorsaf bleidleisio a'r lleoliad dilysu.
Gallwch hefyd gyfrifo'r amser cyfartalog y bydd Swyddog Llywyddu yn ei gymryd i gwblhau'r ffurflenni perthnasol a phecynnu deunyddiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio drwy ystyried profiadau mewn etholiadau blaenorol neu drwy gynnal ymarfer i amseru'r broses yn ymarferol.
Bydd angen i chi sicrhau y gall Swyddogion Llywyddu gael blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu yn ddiogel ac yn effeithlon fel y gellir dechrau'r prosesau dilysu a chyfrif cyn gynted â phosibl. Bydd angen i chi ystyried daearyddiaeth a chysylltiadau trafnidiaeth yr ardal bleidleisio a nodweddion penodol y lleoliad a ddewisir (er enghraifft, lleoedd parcio, ffyrdd mynediad ac ati).
Defnyddio mannau casglu
Un opsiwn posibl fyddai cael deunyddiau gorsafoedd pleidleisio gan Swyddogion Llywyddu mewn un lleoliad neu fwy (‘mannau casglu’) a chludo'r deunyddiau mewn swmp i'r lleoliad dilysu. Bydd angen i chi benderfynu a fydd defnyddio mannau casglu yn cyflymu'r broses gyffredinol o gludo deunyddiau gorsafoedd pleidleisio i'r lleoliad dilysu.
Os byddwch yn defnyddio'r dull hwn, bydd angen i chi roi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau bod blychau pleidleisio a deunyddiau o orsafoedd pleidleisio yn cael eu derbyn yn y mannau casglu yn gywir ac yn drefnus. Os yw'n bosibl, dylai'r staff sy'n derbyn y blychau pleidleisio fwrw golwg yn fras dros y cyfrifon papurau pleidleisio, gan gynnwys y fathemateg sylfaenol, cyn y caniateir i'r Swyddogion Llywyddu adael. Yna byddai angen i'r blychau pleidleisio a'r deunyddiau eraill o'r gorsafoedd pleidleisio gael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad dilysu. Gweler sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill i gael canllawiau pellach ar hyn.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio mannau casglu, byddai'n ddoeth gwneud gwiriad pellach er mwyn sicrhau bod popeth a gludwyd i'r mannau casglu gan Swyddogion Llywyddu wedi cael eu derbyn yn y lleoliad dilysu a chyfrif hefyd. Bydd angen i chi gynnwys yr amser y byddai'n ei gymryd i gwblhau'r gwiriadau hyn wrth gyfrifo effeithlonrwydd posibl defnyddio mannau casglu a phwyso a mesur y ffactorau hyn wrth wneud unrhyw benderfyniad.
Nifer y blychau pleidleisio
Bydd angen i chi gynllunio ar gyfer nifer y blychau pleidleisio y byddwch yn eu derbyn yn y lleoliad dilysu a chyfrif. Caiff hyn ei bennu gan eich cyfrifiad o nifer y papurau pleidleisio y gellir eu rhoi mewn blwch pleidleisio gan ddibynnu ar faint y papur pleidleisio neu'r papurau pleidleisio ac felly sawl blwch pleidleisio a gyflenwir i orsafoedd pleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hadran ar gyfarpar a deunyddiau i'w darparu i'r orsaf bleidleisio.