Mae angen i chi benderfynu pryd i ganiatáu i ffonau symudol gael eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio a nodi hyn yn glir i staff gorsafoedd pleidleisio yn eich hyfforddiant staff.
Ein cyngor ni yw na ddylech ganiatáu i bobl dynnu lluniau y tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Mae'r gyfraith mewn perthynas â chael gwybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio a datgelu gwybodaeth o'r fath yn gymhleth ac mae risg y bydd rhywun sy'n tynnu llun y tu mewn i orsaf bleidleisio yn torri'r gyfraith1
, boed hynny'n fwriadol ai peidio.
Gallech benderfynu arddangos hysbysiad y tu mewn i orsafoedd pleidleisio er mwyn nodi'n glir na chaniateir unrhyw fath o ffotograffiaeth (gan gynnwys tynnu lluniau ar ffonau symudol).
Er y dylech sicrhau bod holl staff gorsafoedd pleidleisio yn ymwybodol o'r canllawiau hyn, dylent hefyd ddeall y gall fod angen i rai pleidleiswyr â cholled golwg ddefnyddio apiau ar eu ffôn symudol neu ddyfeisiau eraill i'w helpu i ddarllen dogfennau, ac y dylent ganiatáu iddynt wneud hynny.