Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Cyfarpar a deunyddiau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio
Mae'n ofynnol i chi ddarparu cyfarpar a deunyddiau penodol i orsafoedd pleidleisio, a bydd angen i chi gynllunio hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer pleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio.
Crynodeb o'r eitemau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio
Rhaid i chi ddarparu'r canlynol i orsafoedd pleidleisio:1
- blwch/blychau pleidleisio
- papurau pleidleisio (gan gynnwys papurau pleidleisio a gyflwynwyd)
- pennau ysgrifennu neu bensiliau i bleidleiswyr farcio eu
- sgriniau pleidleisio2
- y rhan berthnasol o'r gofrestr etholiadol
- rhestrau o bleidleiswyr absennol – pleidleiswyr drwy'r post, pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
- ffurflenni i gofnodi manylion etholwyr sydd wedi cael papurau pleidleisio ar ôl i wall clercol gael ei gywiro (y gellir eu hatodi i gofrestr yr orsaf bleidleisio)
- y rhestr rhifau cyfatebol
- cyfrifon papurau pleidleisio
- rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd
- fersiwn print bras o'r papur pleidleisio, i'w harddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio
- copi llaw enghreifftiol wedi'i chwyddo o'r papur pleidleisio i'w roi i etholwyr i fynd gyda nhw i fwth pleidleisio er gwybodaeth
- dyfais bleidleisio at ddefnydd pobl ddall neu bobl rhannol ddall
- hysbysiadau canllawiau i bleidleiswyr (‘Sut i bleidleisio yn yr etholiadau hyn’) (i'w harddangos y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio)
- hysbysiadau cyfarwyddiadau i bleidleiswyr (i'w harddangos y tu mewn i'r bwth pleidleisio)
- hysbysiad mawr yn dangos y mathau derbyniol o brawf adnabod ffotograffig i'w cyflwyno wrth wneud cais am bapur pleidleisio a datganiad yn nodi y gall fod angen prawf adnabod ychwanegol er mwyn datrys unrhyw anghysondeb rhwng enw'r pleidleisiwr ar y gofrestr etholiadol a'r enw ar y prawf adnabod a gyflwynwyd (i'w harddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio)
- ardal ar wahân ar gyfer gwirio prawf adnabod ffotograffig yn breifat
- ffurflenni datganiad gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau
- rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
- rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- datganiad o nifer y pleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion
- copïau o'r ffurflen dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post
- pecynnau, gyda seliau, i osod ynddynt yr eitemau a gaiff eu dychwelyd atoch, megis papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i'r orsaf bleidleisio, a deunydd pecynnu ar gyfer dogfennaeth yr etholiad ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.
- unrhyw gyfarpar ychwanegol rydych wedi penderfynu bod ei angen i'w gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr anabl bleidleisio ee. bathodynnau ar gyfer adnabod staff gorsafoedd pleidleisio
Comisiynydd yr Heddlu Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.
Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].
ail hanner y cynnwys
Yn ogystal, dylech ddarparu:
- ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr a ffurflen nodiadau'r ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr
- drychau, fel y gall pleidleiswyr sy'n tynnu eu gorchuddion wyneb at ddibenion adnabod sicrhau bod eu gorchudd wyneb yn ei le yn gywir cyn gadael yr ardal breifat
- sgriniau preifatrwydd, lle nad oes ystafell ar wahân ar gael ar gyfer gwirio ID ffotograffig yn breifat. Dylai Swyddogion Canlyniadau ystyried diogelwch staff a'r risg o honiadau o ddylanwad gormodol
- amlenni, gyda seliau, i roi unrhyw bapurau pleidleisio ynddynt a gyflwynwyd ond nad yw'r etholwr wedi'u gosod yn y blwch pleidleisio
- ffurflen neu restr i gofnodi etholwyr sydd wedi’u marcio fel pleidleiswyr post ond sy’n honni nad ydynt wedi gwneud cais am un
- papur nodiadau i'w ddefnyddio gan staff yr orsaf bleidleisio
- deunyddiau ysgrifennu yn ôl y gofyn, e.e. clipiau papur, pinnau bawd, tac gludiog, tâp gludiog
- sachau plastig ar gyfer dychwelyd deunydd ysgrifennu ac offer i'r lleoliad dilysu
- amlenni ar gyfer gwneud pecynnau amrywiol
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud y cyfryw drefniadau ag y gwelwch yn dda i sicrhau bod staff, ymgeiswyr ac asiantiaid a benodir i fynychu’r orsaf yn cael y gofynion cyfrinachedd perthnasol a ganlyn.3
Rydym hefyd wedi cynhyrchu arolwg templed ar gyfer pleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth bleidleisio, y gallech fod am ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw i Swyddogion Canlyniadau ar gynorthwyo pleidleiswyr anabl i bleidleisio ar Adolygu’r etholiad.
Dylech wirio bod holl offer yr orsaf bleidleisio yn addas at y diben a bod gennych ddigon o gyflenwad, yn enwedig os bydd nifer fawr yn pleidleisio. Dylai hyn gynnwys ystyried a ddylech gyflenwi blychau pleidleisio ychwanegol i Swyddogion Llywyddu oherwydd efallai na fydd un blwch yn ddigon os bydd nifer fawr yn pleidleisio.
Dylech baratoi offer a deunyddiau eich gorsaf bleidleisio mewn da bryd cyn y diwrnod pleidleisio, naill ai i'w dosbarthu i orsafoedd pleidleisio neu i'w casglu gan Swyddogion Llywyddu.
Dylech sicrhau bod unrhyw gyfarpar ychwanegol a nodwyd gennych i wneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch yn cael ei ddosbarthu a'i osod mewn da bryd ar gyfer agor y bleidlais. Mae ein canllawiau ar ddarparu offer sy’n gwneud pleidleisio’n haws i bleidleiswyr anabl yn darparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.
Lle mae dolen sain wedi'i gosod mewn gorsaf bleidleisio, dylid ei defnyddio lle bynnag y bo modd i gefnogi hygyrchedd y broses etholiadol i bleidleiswyr sydd wedi colli eu clyw. Dylid hyfforddi staff y gorsafoedd pleidleisio ar sut i ddefnyddio'r rhain yn y sesiwn friffio.
- 1. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012), Atodlen 3, para 29 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. PCCEO 2012, Atodlen 3, para 26 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. PCCEO 2012, erthygl 22 ac Atodlen 3, para 32 ↩ Back to content at footnote 3