Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Darparu gwybodaeth am nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd

Gallai asiant etholiad neu asiant pleidleisio ofyn i staff gorsafoedd pleidleisio am wybodaeth am nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd. Chi sy'n penderfynu a ddylid rhoi'r wybodaeth hon. 

Dim ond y sawl sydd â hawl i fod yn yr orsaf bleidleisio a gaiff ofyn am nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd. Os byddwch yn penderfynu rhoi'r wybodaeth hon, rhaid i chi ofalu na fyddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth a allai dorri cyfrinachedd y bleidlais. 

Rydym wedi llunio canllawiau ar sut y gall staff gorsafoedd pleidleisio gyfrifo nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd. Gellir dod o hyd i'r canllawiau hyn yn ein dogfen friffio i staff gorsafoedd pleidleisio:

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024