Mynediad at y broses o goladu'r canlyniad a dyrannu seddi
Dylech sicrhau bod yr holl brosesau'n dryloyw ac yn cael eu cynnal yn glir o flaen y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol, ac y darperir gwybodaeth i fynychwyr am y prosesau sydd i'w dilyn.
Mae gan y bobl ganlynol yr hawl i fynychu pan fydd y canlyniad yn cael ei goladu:1
chi ac aelodau o'ch staff
pob ymgeisydd unigol a rhestr plaid ac un person a ddewiswyd gan bob un ohonynt
asiantiaid etholiad
cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol
arsylwyr achrededig.
Gallwch ganiatáu pobl eraill i fynychu dim ond os ydych chi'n fodlon na amharir ar effeithlonrwydd y cyfrifiad, a'ch bod chi wedi ymgynghori â'r asiantiaid etholiad neu wedi penderfynu na fyddai'n ymarferol gwneud hynny.2
Mae’n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i asiantiaid cyfrif penodedig o'r amser a’r lleoliad y bydd y broses ddilysu a chyfrif yn dechrau.3
Rhaid i chi roi cyfleusterau rhesymol i'r rhai sydd â hawl i fynychu er mwyn iddynt oruchwylio'r broses a phob gwybodaeth o'r fath amdani, gan gynnwys i fodloni eu hunain bod cadarnhad o'r canlyniad yn gywir.4
Dylech hefyd sicrhau bod unrhyw un arall sydd â hawl i fod yn bresennol yn gallu gweld y broses yn glir, gan sicrhau hefyd na fyddant yn gallu ymyrryd â gwaith eich staff.
Yn ogystal, efallai bod eich asesiad risg wedi nodi pryderon diogelwch sy’n cyfiawnhau’r angen i gynnal gwiriadau ychwanegol ar bob unigolyn sy’n bresennol, fel gofyn i’r rhai sy’n bresennol ddangos ID a chynnal gwiriadau bagiau cyn caniatáu mynediad, a gall hyn gynnwys arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn.