Penderfynu ar ddilysrwydd papurau enwebu ymgeisydd unigol
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bapur enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref ategol a ffurflen cydsynio ag enwebiad ac ernes ymgeisydd unigol gael eu cyflwyno, rhaid ichi eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi’i enwebu’n ddilys.1
Mae ymgeisydd unigol yn sefyll ag enwebiad oni bai a hyd nes:2
eich bod yn penderfynu bod y papur enwebu'n annilys
bod yr ymgeisydd yn marw
bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl
Seiliau i bennu bod papurau enwebu ymgeiswyr unigol yn annilys
Yn ôl y gyfraith, yr unig seiliau sydd gennych i benderfynu bod ffurflen enwebu yn annilys yw:3
nad yw manylion yr ymgeisydd fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith
mae’r ymgeisydd wedi’i anghymwyso dan a16(A1) o Ddeddf 2006
mae ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn torri a7(5) o Ddeddf 2006
nad yw’r ffurflen enwebu wedi’i llofnodi fel sy’n ofynnol gan reol 5(6) o reolau etholiadau Senedd Cymru.